Sut gallwch chi ein cefnogi 

Yr anrhegion rydych chi’n eu rhoi, yr arian rydych chi’n ei godi, yr amser rydych chi’n ei wirfoddoli. Mae’r cyfan yn pweru ein gofal a’n cymorth arbenigol i blant sydd â chyflyrau sy’n byrhau bywyd a’u teuluoedd. 

Chi yw’r archarwyr sy’n helpu i leddfu pwysau di-baid, gwneud yr amhosibl yn bosibl a chreu llawer o lawenydd. 

Cefnogi ni

Byddwch yn gefnogwr Tŷ Hafan

Codi Arian i Tŷ Hafan 

Trefnwch eich digwyddiad codi arian eich hun. Cymerwch ran yn un o’n heriau. Codwch arian yn eich gwaith, eich ysgol neu’ch cartref. Mae sawl ffordd o godi arian ar gyfer Tŷ Hafan. 

A beth bynnag rydych chi’n dewis ei wneud, peidiwch ag anghofio y byddwn ni yma i’ch cefnogi chi bob cam o’r ffordd. O gyngor arbenigol, i awgrymiadau codi arian gwych, i adnoddau hynod ddefnyddiol, rydym ni yma i chi. 

Codi arian

Cymryd rhan mewn digwyddiad

I godi arian hanfodol ar gyfer Tŷ Hafan, gallech gymryd rhan yn un o’n digwyddiadau rhedeg, beicio neu gerdded, neu ddigwyddiad a drefnwyd gan sefydliad arall, fel Marathon Llundain.  

Neu beth am drefnu eich digwyddiad eich hun i gefnogi ein gwaith sy’n newid bywydau? Mae’n ffordd wych o ddatblygu sgiliau newydd a gwneud rhywbeth sy’n rhoi boddhad gwirioneddol gyda theulu a ffrindiau. 

Cefnogwch ni fel … 

There are so many ways you can support Tŷ Hafan, whether it be on your own, with a group of friends, your business or school. We are here to help you every step of the way.

Gadael anrheg yn eich ewyllys 

Trwy adael anrheg werthfawr yn eich ewyllys i Tŷ Hafan, gallwch sicrhau bod ein gwasanaethau sy’n newid bywydau o fudd i lawer mwy o deuluoedd ymhell i’r dyfodol. 

Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth ysgrifennu ewyllys am ddim a chanllawiau hawdd eu dilyn i wneud yn siŵr bod diweddaru ewyllys sy’n bodoli eisoes neu greu un o’r newydd mor ddidrafferth â phosibl. 

Dod yn wirfoddolwr arwrol 

Mae dod yn un o’n gwirfoddolwyr yn ffordd wych o wneud ffrindiau newydd, datblygu sgiliau newydd a helpu bywydau byr i fod yn fywydau llawn. 

Byddwn hefyd yn rhoi llawer o gefnogaeth ac arweiniad personol i chi er mwyn sicrhau eich bod bob amser yn cael profiad gwirfoddoli pleserus a gwerth chweil gyda ni. 

Loteri

Mae ein loteri Crackerjackpot yn rhoi cyfle i chi ennill 81 o wobrau wythnosol ac ennill hyd at £12,000. Mae wir yn ffordd wych o gefnogi ein gwasanaethau hanfodol a rhoi hwb i’ch balans banc. 

Dewch i Siopa gyda ni ar-lein

O gysur eich cartref eich hun, gallwch brynu ystod eang o eitemau gwych i chi’ch hun, eich anwyliaid a hyd yn oed eich anifeiliaid anwes. O ddillad ac ategolion i nwyddau cartref a nwyddau wedi’u gwneud â llaw, mae gennym ni i gyd a llawer mwy.

donate-preloved-items
Rhoi nwyddau

If you’d like to donate some items at one of our shops in south and west Wales, please read our easy-to-follow guidance first.

Gwirfoddoli gyda Tŷ Hafan

At Tŷ Hafan, there are many ways you can support our life-changing services as a volunteer. From working in one of our shops, to tending our hospice’s gardens, to helping out at a Tŷ Hafan event.

Ein newyddion diweddaraf

Darllenwch y newyddion diweddaraf am ein gwasanaethau, ein hymgyrchoedd, ein digwyddiadau, y plant a’r teuluoedd gwych rydyn ni’n eu cefnogi a’n cefnogwyr anhygoel.

Gwenno and Emrys
13.11.2025

Hosbis Plant Tŷ Hafan yn lansio “Apêl Pob Bywyd Gwethfawr” 

Mae Hosbis Plant Tŷ Hafan wedi lansio “Apêl Pob Bywyd Gwerthfawr” newydd sydd a’r nod o ...
Tommy's Story
09.10.2025

Stori Tommy

Wnes i erioed wir feddwl y byddai wedi mynd Wnes i erioed wir feddwl y byddai Tommy wedi mynd. Roedd...
04.09.2025

Tal yn siarad dros iechyd plant

Ddydd Mercher, 2 Gorffennaf, gwahoddwyd Cadeirydd y Bwrdd Ieuenctid, Taliesin Skone, i siarad yn lan...
04.09.2025

Clwb Ieuenctid yn cael ymweliad gan Chwaraeon Anabledd Cymru

Yr wythnos diwethaf, roeddem yn ddigon ffodus i groesawu Leif Thobroe, Uwch Swyddog Partneriaeth Ran...
Cameron Spring Appeal
14.08.2025

Stori Cameron

Pan oedd ond dau ddiwrnod oed, cafodd Cameron ei frysio i ofal arbennig. Ar un adeg stopiodd anadlu....