Mae Hosbis Plant Tŷ Hafan wedi lansio “Apêl Pob Bywyd Gwerthfawr” newydd sydd a’r nod o godi £400,000 mewn dim ond 60 awr.

Bydd y rhoddion a wneir i’r apêl o fewn y 60 awr, a fydd yn dechrau am 10am ddydd Sul 23 Tachwedd ac yn gorffen am 10pm ddydd Mawrth 25 Tachwedd, yn cael eu dyblu diolch i gronfa arian cyfatebol y mae’r elusen wedi’i chreu.

Mae “Apêl Pob Bywyd Gwerthfawr” Tŷ Hafan yn canolbwyntio ar straeon teuluoedd sydd wedi colli babanod ac sy’n cael eu cefnogi gan Tŷ Hafan.

Dim ond 8 diwrnod oed oedd Emrys Arthur pan fu farw ar 14 Mawrth 2024 ar ôl iddo gael ei eni’n gynamserol yn ddim ond 25 wythnos.

Luke, Gwenno and Emrys

Cafodd ei rieni Gwenno George a Luke Nicholas, sy’n byw yng Nghaerdydd, eu cefnogi gan Tŷ Hafan i yrru corff eu mab bach annwyl yn ôl i dref enedigol Gwenno, Cricieth, yng Ngogledd Cymru, lle cafodd ei gladdu ochr yn ochr ag aelodau eraill o deulu Gwenno.

“Fe gawson ni wyth diwrnod gydag Emrys,” meddai Gwenno. “Fydd e’ byth yn ddigon, ond roedden ni’n lwcus i gael wyth diwrnod gwerthfawr.”

Mae Gwenno, Cyfarwyddwr Cyllid ar gyfer Acuity Law, a Luke, sy’n gweithio i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, hefyd wedi cael cwnsela drwy Tŷ Hafan ac maen nhw’n elwa ar gymorth profedigaeth parhaus.

“Rwy’n teimlo’n lwcus iawn bod ganddon ni’r gefnogaeth ychwanegol hon, y teulu ychwanegol hwn, yn Tŷ Hafan. Rwy’n ei chael hi’n anodd meddwl am deuluoedd neu gyplau sy’n gorfod mynd trwy’r hyn rydyn ni wedi bod drwyddo heb gefnogaeth Tŷ Hafan.”

Yn rhannu ei stori hefyd i gefnogi “Apêl Pob Bywyd Gwerthfawr” Tŷ Hafan mae Kath Keeble o Ferthyr Tudful, mam Tommy Keeble.

Dim ond wyth diwrnod oed oedd Tommy hefyd pan fu farw, ar ôl cael ei eni’n gynamserol yn 31 wythnos.

Meddai Kath, sy’n weithiwr iechyd meddwl cymunedol: “Wnes i erioed feddwl y byddai Tommy yn marw. Roeddwn i bob amser yn meddwl: ‘Na, mae hyn yn mynd i fod yn iawn. Mae hyn yn rhywbeth y mae’n rhaid i ni fynd drwyddo. Mae’n ofnadwy. Ond fe fydd e’n iawn.’

Tommy's Story

“Ar ôl i Tommy farw, fe wnaeth fy mywyd chwalu rhywfaint ac fe wnes i fynd yn sâl iawn gyda meddyliau hunanladdol. Roeddwn i jyst eisiau bod gydag e’. Yn y pen draw, fe ges i fy nerbyn i ward iechyd meddwl ac yn araf, yn araf iawn, fe wnaethon nhw fy helpu i sylweddoli nad oeddwn i’n fam ddrwg oherwydd doeddwn i ddim eisiau i Tommy fynd.

“Heb Tŷ Hafan, fyddwn i ddim yma heddiw.”

Meddai Dan Bamsey, Pennaeth Codi Arian Tŷ Hafan: “Hoffem ddiolch i Gwenno, Luke a Kath am eu dewrder anhygoel wrth rannu straeon Emrys a Tommy gyda ni i gefnogi ein Hapêl Pob Bywyd Gwerthfawr.

“Rydyn ni wedi dewis canolbwyntio ar ein gwaith gyda babanod ifanc iawn gan fod hwn yn faes lle mae’r galw am ein gwasanaethau wedi bron â dyblu.

“Cafodd 21 o fabanod 28 diwrnod oed ac iau eu cyfeirio atom yn 2023/2024, a 39 yn 2024/2025. Ac yn ystod chwe mis cyntaf eleni, rydyn ni eisoes wedi cael 22 o atgyfeiriadau.

“Felly, y Nadolig hwn, rydyn ni’n anelu at godi £400,000 mewn dim ond 60 awr i gefnogi mwy o deuluoedd plant sydd â chyflyrau sy’n byrhau bywyd.”

“Y cyfan rydyn ni’n gofyn yw bod pobl yn mynd i Pob Bywyd Gwerthfawr – Ty Hafan Cymraeg unrhyw bryd rhwng 10am ddydd Sul 23 Tachwedd a 10pm ddydd Mawrth 25 Tachwedd ac yn rhoi beth bynnag y gallan nhw. Oherwydd dylai ddim un teulu orfod byw bywyd byr ei blentyn ar ei ben ei hun.”

 

Darllen:

Stori Emrys – Ty Hafan Cymraeg

Emrys’ Story – Ty Hafan

Stori Tommy – Ty Hafan Cymraeg

Tommy’s story – Ty Hafan