{"id":3393,"date":"2025-08-14T15:52:48","date_gmt":"2025-08-14T15:52:48","guid":{"rendered":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/?p=3393"},"modified":"2025-08-14T15:52:48","modified_gmt":"2025-08-14T15:52:48","slug":"stori-cameron","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/2025\/08\/14\/stori-cameron\/","title":{"rendered":"Stori Cameron"},"content":{"rendered":"<p>Pan oedd ond dau ddiwrnod oed, cafodd Cameron ei frysio i ofal arbennig. Ar un adeg stopiodd anadlu. Roedd yn amser pryderus i Aimee a oedd yn fam am y tro cyntaf, ond ar \u00f4l nifer o brofion, cawsant eu hanfon adref. Erbyn yr oedd yn 6 mis oed, roedd ymweliadau \u00e2&#8217;r ysbyty yn digwydd yn aml gan fod Cameron wedi dechrau tagu ac roedd yn cael problemau ar y frest. Yn 11 mis oed, doedd Cameron ddim yn gallu eistedd i fyny, nid oedd yn gallu dal ei ben i fyny ac roedd yn methu cerrig milltir datblygiadol. Gofynnwyd am sgan MRI i ddod o hyd i atebion.<\/p>\n<p>&#8220;Roeddwn i&#8217;n gwybod bod rhywbeth o&#8217;i le o&#8217;r eiliad y cafodd ei eni, ond ar \u00f4l profion yn yr uned gofal arbennig cawsom ein hanfon adref. Fel mam newydd roedd yn achosi llawer iawn o straen. Roeddwn i&#8217;n amau fy hun oherwydd mai ef oedd fy mhlentyn cyntaf. Er hynny, roeddwn i&#8217;n gwybod bod rhywbeth ddim yn iawn. Am flwyddyn gyntaf ei fywyd, treuliodd fwy o amser yn yr ysbyty nag allan ohono. <strong>Roedd yn amser ofnadwy. Roeddwn i mor bryderus&#8221;<\/strong><\/p>\n<p>&#8220;Un diwrnod, pan oedd Cam yn 16 mis oed, aethon ni am apwyntiad pediatrig arall. Ond y tro hwn cawsom ni ein galw i mewn i ystafell ar wah\u00e2n i gwrdd \u00e2&#8217;r ymgynghorydd. Roeddwn i&#8217;n gwybod bod rhywbeth o&#8217;i le go iawn. Dyna pryd y cawsom y newyddion mwyaf dinistriol \u2013 roedd gan fy mhlentyn bach gwerthfawr Syndrom Joubert, clefyd genetig prin. Roedd yn teimlo fel bod fy mhen wedi ffrwydro; roedd yn anodd deall beth fyddai hyn yn ei olygu&#8221;<\/p>\n<p>&#8220;Ac yna cawsom ein hanfon adref. Ni roddwyd unrhyw wybodaeth i ni na\u2019n cyfeirio at unrhyw wasanaethau cymorth. Roeddwn i mor ddryslyd. Roedd mor annisgwyl.<strong> Rwy&#8217;n cofio eu bod nhw wedi dweud &#8216;edrychwch ar Facebook a gweld a oes unrhyw grwpiau cymorth ar gael&#8217;. Roeddwn i&#8217;n syfrdan.&#8221;<\/strong><\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-full wp-image-2991\" src=\"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/04\/Cameron-breathing-mask.jpg\" alt=\"\" width=\"700\" height=\"700\" srcset=\"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/04\/Cameron-breathing-mask.jpg 700w, https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/04\/Cameron-breathing-mask-300x300.jpg 300w, https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/04\/Cameron-breathing-mask-150x150.jpg 150w, https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/04\/Cameron-breathing-mask-600x600.jpg 600w, https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/04\/Cameron-breathing-mask-100x100.jpg 100w\" sizes=\"(max-width: 700px) 100vw, 700px\" \/><\/p>\n<h2><strong>Mae&#8217;n dibynnu arnaf 24\/7<\/strong><\/h2>\n<p><strong>&#8220;Nid yw Cam yn gallu siarad. Mae ganddo broblemau gyda&#8217;i gydbwysedd a&#8217;i anadlu. Nid yw&#8217;n gallu gwisgo na bwydo ei hun. Mae&#8217;n dibynnu arnaf 24\/7&#8221;<\/strong>.<\/p>\n<p>&#8220;Roeddwn i&#8217;n gyson yn poeni ac yn bryderus, bob amser wedi blino. Roedd fy mywyd yn gylch o bryder &#8211; byddwn i&#8217;n mynd i gysgu yn bryderus ac yn deffro&#8217;n bryderus. Roeddwn i&#8217;n teimlo mor unig. Yna tarodd Covid, a gwnaeth y cyfnod clo bopeth 100% yn waeth. Roedd angen help arnaf; doeddwn i ddim yn gwybod ble i droi.&#8221;<\/p>\n<p>&#8220;Roeddwn i wedi clywed am T\u0177 Hafan, ond roedd y gair &#8216;hosbis&#8217; yn fy nychryn i. Roeddwn i&#8217;n meddwl mai dim ond ar gyfer gofal diwedd oes oedd e. Doeddwn i ddim yn sylweddoli y gallen nhw fy helpu i a fy nheulu. Nid oedd neb erioed wedi esbonio&#8217;r gefnogaeth maen nhw&#8217;n ei chynnig nac wedi awgrymu i mi gysylltu \u00e2 nhw. Y tro cyntaf i mi ddod yma, roedd yn teimlo fel bod pwysau enfawr yn cael ei godi oddi ar fy ysgwyddau. Mae&#8217;r enw T\u0177 Hafan yn berffaith oherwydd ei fod yn hafan ddiogel go iawn.&#8221;<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-3386\" src=\"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/08\/Aimee-Cameron-and-Anwen-Davies-Sept-2024.jpeg\" alt=\"\" width=\"1057\" height=\"700\" srcset=\"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/08\/Aimee-Cameron-and-Anwen-Davies-Sept-2024.jpeg 1600w, https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/08\/Aimee-Cameron-and-Anwen-Davies-Sept-2024-300x199.jpeg 300w, https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/08\/Aimee-Cameron-and-Anwen-Davies-Sept-2024-1024x678.jpeg 1024w, https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/08\/Aimee-Cameron-and-Anwen-Davies-Sept-2024-768x509.jpeg 768w, https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/08\/Aimee-Cameron-and-Anwen-Davies-Sept-2024-1536x1018.jpeg 1536w, https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/08\/Aimee-Cameron-and-Anwen-Davies-Sept-2024-600x398.jpeg 600w\" sizes=\"(max-width: 706px) 89vw, (max-width: 767px) 82vw, 740px\" \/><\/p>\n<h2 style=\"text-align: left;\"><strong>Lle ac amser i greu atgofion gyda&#8217;n gilydd fel teulu<\/strong><\/h2>\n<p>&#8220;Wrth i Cameron dyfu&#8217;n h\u0177n mae ei bersonoliaeth yn dod i&#8217;r amlwg. Mae&#8217;n 13 erbyn hyn ac mae&#8217;n ddoniol. Mae&#8217;n ddoniol iawn. Mae&#8217;n glyfar ac mae ganddo synnwyr digrifwch direidus. Mae &#8216; wrth ei fodd yn chwarae ar ei X-Box, mae&#8217;n dwlu ar Fortnite a wreslo. <strong>Mae pawb yn dweud bod ei w\u00ean yn goleuo ystafell.<\/strong>\u201d<\/p>\n<p>&#8220;Rydyn ni&#8217;n mynd i&#8217;r Hybiau Aros a Chwarae yn lleol, sy&#8217;n wych. Mae Cam wrth ei fodd \u00e2&#8217;r ewin sebon a sleim. Cyn gynted ag y mae&#8217;n ei weld, mae ei lygaid yn goleuo&#8217;n ddireidus. Fe yn sicr sy&#8217;n dechrau pethau, ond mae wrth ei fodd \u00e2 phartner. Fydda&#8217; i&#8217;n ei weld yn edrych ar Anwen ac yn olwyno ei hun draw. Yna byddwn ni i gyd yn chwerthin, wedi ein gorchuddio ag ewin. Rwy mor ddiolchgar am yr adegau hyn. <strong>Dyna beth mae T\u0177 Hafan yn ei roi i ni: lle ac amser i greu atgofion gyda&#8217;n gilydd fel teulu.&#8221;<\/strong><\/p>\n<p>&#8220;Weithiau mae&#8217;n cyrraedd y pwynt lle mae angen arhosiad argyfwng yn yr hosbis arnom. Dydw i ddim yn hoff o ofyn oherwydd rwy&#8217;n gwybod bod teuluoedd eraill angen yr hosbis hefyd, a does ganddyn nhw ddim y staff a&#8217;r adnoddau i helpu pawb. Mae teuluoedd eraill mewn argyfwng, ac yna maen nhw&#8217;n fy atgoffa i \u2018Aimee, rwyt ti mewn argyfwng hefyd,\u2019 ac maen nhw&#8217;n iawn. Mae&#8217;r arhosiadau hynny yn rhyddhad llwyr. Pan fydda&#8217; i&#8217;n dod fan hyn, gallaf roi gofal Cameron i un ochr oherwydd rwy&#8217;n gwybod y byddan nhw&#8217;n gofalu amdano. <strong>Heb yr arhosiadau hynny, rwy&#8217;n credu y byddem ni wedi colli pob gobaith erbyn hyn.&#8221;<\/strong><\/p>\n<p>&#8220;Ac mae Cameron wrth ei fodd yno hefyd. Mae angen hoe arno o&#8217;i fywyd arferol gartref weithiau, ac mae&#8217;n meddwl ei fod ar ei wyliau pan mae&#8217;n dod yma. Mae&#8217;n mwynhau&#8217;r rhyddid a&#8217;r annibynniaeth, sydd mor bwysig i rywun yn ei arddegau. Rwy&#8217;n gweld newid go iawn yn ei ymddygiad pan mae&#8217;n dod i&#8217;r hosbis. Mae&#8217;n hyfryd ei weld, ac mae&#8217;n gymaint o ryddhad i mi. Rwy&#8217;n gwybod ei fod yn ddiogel ac y gallaf ymlacio. Rwy&#8217;n cael treulio amser gydag Anwen hefyd, dim ond y ddwy ohonom, y tro diwethaf aethom ni i chwarae mini golff. Efallai fod teuluoedd eraill yn mynd allan am y dydd ac yn ei gymryd yn ganiataol ond i ni maen nhw mor werthfawr.&#8221;<\/p>\n<p><strong>&#8220;Galla&#8217; i ddim hyd yn oed dechrau dychmygu beth fyddai&#8217;n golygu i fy nheulu pe na byddai&#8217;r cymorth yr ydym yn ei gael ar hyn o bryd ar gael mwyach. Dydw i wir ddim yn gwybod sut y byddem ni&#8217;n ymdopi. Byddem ni&#8217;n teimlo&#8217;n gaeth ac yn ddi-gymorth, fel yr oeddem ni cynt.<\/strong><\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-full wp-image-3387\" src=\"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/08\/cameron-playing.jpg\" alt=\"\" width=\"700\" height=\"700\" srcset=\"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/08\/cameron-playing.jpg 700w, https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/08\/cameron-playing-300x300.jpg 300w, https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/08\/cameron-playing-150x150.jpg 150w, https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/08\/cameron-playing-600x600.jpg 600w, https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2025\/08\/cameron-playing-100x100.jpg 100w\" sizes=\"(max-width: 700px) 100vw, 700px\" \/><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Pan oedd ond dau ddiwrnod oed, cafodd Cameron ei frysio i ofal arbennig. Ar un adeg stopiodd anadlu. Roedd yn amser pryderus i Aimee a oedd yn fam am y tro cyntaf, ond ar \u00f4l nifer o brofion, cawsant eu&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":2244,"featured_media":2988,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[33,1],"tags":[],"class_list":["post-3393","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-straeon-teuluol","category-uncategorized"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3393","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2244"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3393"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3393\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3396,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3393\/revisions\/3396"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2988"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3393"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3393"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3393"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}