{"id":3334,"date":"2025-07-08T13:49:58","date_gmt":"2025-07-08T13:49:58","guid":{"rendered":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/?p=3334"},"modified":"2025-07-08T13:50:27","modified_gmt":"2025-07-08T13:50:27","slug":"diwrnod-ym-mywyd-nyrs-glinigol-arbenigol-gofal-lliniarol-i-fabanod-newydd-anedig","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/2025\/07\/08\/diwrnod-ym-mywyd-nyrs-glinigol-arbenigol-gofal-lliniarol-i-fabanod-newydd-anedig\/","title":{"rendered":"Diwrnod ym mywyd\u2026 Nyrs Glinigol Arbenigol Gofal Lliniarol i Fabanod Newydd-anedig"},"content":{"rendered":"<p>Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd yn y galw am ein gwasanaethau diwedd oes a chymorth brys ar gyfer babanod newydd-anedig \u2013 babanod 4 wythnos oed neu iau. Yn sgil hyn, aethom ati i greu r\u00f4l newydd yn 2023 i roi cymorth gofal lliniarol i fabanod, gan benodi Jemma yn Nyrs Glinigol Arbenigolar gyfer Gofal Lliniarol i Fabanod Newydd-anedig.<\/p>\n<p>R\u00f4l Jemma yw cefnogi teuluoedd babanod newydd-anedig y gallai eu dyfodol fod yn ansicr. Gall fod gan y babanod hyn gyflwr annisgwyl sy\u2019n byrhau bywyd, neu efallai bod y teuluoedd wedi cael gwybod y gallai fod cymhlethdodau cyn i\u2019w babi gael ei eni.<\/p>\n<p><strong>\u201cRwy\u2019n cyfarfod \u00e2 theuluoedd ar adeg emosiynol iawn pan fo pethau\u2019n ansicr. Mae\u2019n amser anodd iawn iddyn nhw.\u201d<\/strong><\/p>\n<p>Yn \u00f4l Jemma, mae ei diwrnodau gwaith i gyd yn wahanol iawn. \u201cGalla i gael fy nhynnu fan hyn a fan draw os yw\u2019n fater brys!\u201d<\/p>\n<p>\u201cMae gen i ddiwrnod penodol ym mhob un o\u2019r unedau lefel 3 i fabanod newydd-anedig yn Abertawe, Casnewydd a Chaerdydd. Rwy\u2019n ymuno \u00e2\u2019r rowndiau ar y ward lle y bo\u2019n bosibl fel fy mod i\u2019n bresennol yn yr uned, gan wneud yn si\u0175r bod teuluoedd yn dod yn gyfarwydd \u00e2 gweld rhywun o T\u0177 Hafan ac nad ydyn nhw\u2019n ofni\u2019r hyn y mae hynny\u2019n ei olygu. Dydyn nhw ddim yn gwybod beth sy\u2019n mynd i ddigwydd nesaf, a yw eu babi yn mynd i oroesi neu a fydd ganddo gyflwr a fydd yn byrhau ei fywyd.<\/p>\n<p>Mae ymuno \u00e2\u2019r rowndiau ar y ward yn rhoi cyfle i Jemma weld a allai unrhyw rai o\u2019r babanod a\u2019u teuluoedd gael eu hatgyfeirio i T\u0177 Hafan i gael cymorth. \u201cOs oes unrhyw atgyfeiriadau, rwy\u2019n esbonio beth yw T\u0177 Hafan, fy r\u00f4l i a\u2019r cymorth sydd ar gael. Rwyf hefyd yn defnyddio\u2019r amser hwn i gysylltu \u00e2 theuluoedd sydd wedi cael eu hatgyfeirio a chael y newyddion diweddaraf ar eu babi.\u201d<\/p>\n<p>Pan nad yw Jemma ar wardiau i fabanod newydd-anedig, gall fod yn cefnogi rhieni sy\u2019n disgwyl babi y mae ei ddyfodol yn ansicr. \u201cRwy\u2019n eu cefnogi yn y cyfnod yn arwain i fyny at yr enedigaeth ac yn eu helpu i gynllunio ar gyfer yr enedigaeth a\u2019r cyfnod wedi hynny.\u201d Gallai hyn hefyd olygu galw ar ein Hymarferwyr Cymorth i Deuluoedd i ddarparu gwasanaethau creu atgofion a gwasanaethau eraill, yn dibynnu ar anghenion a dymuniadau\u2019r teulu.<\/p>\n<p>Os bydd teulu yn dewis dod i T\u0177 Hafan gyda\u2019u babi i gael gofal diwedd oes, mae Jemma yn helpu i wneud yn si\u0175r bod hyn yn digwydd. \u201cFe fydda\u2019 i\u2019n trefnu i drosglwyddo\u2019r babi o\u2019r ysbyty, gan wneud yn si\u0175r bod y rhieni yn deall beth fydd yn digwydd a chymryd amser i ddeall eu dymuniadau ochr yn ochr \u00e2\u2019n Hymarferwyr Cymorth i Deuluoedd. Rwy\u2019n cydweithio \u00e2\u2019r timau ar y ward i fabanod newydd-anedig ac yn T\u0177 Hafan i sicrhau bod popeth yn barod.\u201d<\/p>\n<p>Ymunodd Jemma \u00e2 T\u0177 Hafan ar \u00f4l gweithio am 14 mlynedd ar unedau i fabanod newydd-anedig ei hun. \u201cYr hyn rwy\u2019n ei hoffi am fod yn T\u0177 Hafan yw y gallwch chi ddarparu llawer o gymorth i deuluoedd, nid dim ond rhieni ond brodyr a chwiorydd a gweddill y teulu hefyd. Mae ysbytai yn gwneud eu gorau gyda\u2019r hyn sydd ganddyn nhw, ond mae gallu cynnig iddyn nhw adael yr ysbyty a bod allan gyda\u2019u babi yn T\u0177 Hafan, os mai dyna maen nhw eisiau, yn gr\u00eat.<\/p>\n<p><strong>\u201cMae pawb sy\u2019n gweithio yma, yn enwedig yn yr eiliadau hynny o ofal diwedd oes, yn dangos cymaint o dosturi ac yn ceisio rhoi\u2019r profiad gorau posibl iddyn nhw yn yr amgylchiadau hynny.\u201d<\/strong><\/p>\n<p>Mae Jemma hefyd yn helpu gyda \u2018chynllunio cyfochrog\u2019. Bydd Jemma yn cefnogi teuluoedd i benderfynu beth maen nhw eisiau ei wneud os bydd eu babi yn marw, er enghraifft, cael gofal diwedd oes gartref neu yn ein hosbis, ond hefyd i gael cynllun arall ar waith fel bod gan y teulu y cymorth sydd ei angen arnyn nhw i fynd \u00e2\u2019u babi adref os bydd yn goroesi.<\/p>\n<p>Gall y ffaith bod y cymorth a\u2019r opsiynau hyn ar gael wneud gwahaniaeth enfawr i deulu y mae eu babi yn wynebu dyfodol ansicr. Mae ganddyn nhw opsiynau gyda T\u0177 Hafan ac, yn bwysig, mae\u2019r cymorth yn ymestyn y tu hwnt i farwolaeth y plentyn a phrofedigaeth.<\/p>\n<p>Mae datblygiadau meddygol yn golygu bod babanod sy\u2019n cael eu geni\u2019n gynnar iawn neu\u2019r rhai sydd \u00e2 chyflyrau iechyd cymhleth yn byw\u2019n hirach. Mae r\u00f4l Jemma yn un hollbwysig yn T\u0177 Hafan \u2013 mae\u2019n gwneud yn si\u0175r bod teuluoedd yn gwybod yr opsiynau sydd ar gael iddyn nhw a\u2019u bod yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw pan fydd eu babi yn dod i ddiwedd ei oes.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd yn y galw am ein gwasanaethau diwedd oes a chymorth brys ar gyfer babanod newydd-anedig \u2013 babanod 4 wythnos oed neu iau. Yn sgil hyn, aethom ati i greu r\u00f4l newydd&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":2244,"featured_media":3335,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[26,55],"tags":[],"class_list":["post-3334","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cwtch","category-newyddion-diweddaraf"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3334","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2244"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3334"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3334\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3338,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3334\/revisions\/3338"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3335"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3334"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3334"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3334"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}