{"id":2944,"date":"2025-01-30T12:00:22","date_gmt":"2025-01-30T12:00:22","guid":{"rendered":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/2025\/01\/30\/the-princess-of-wales-becomes-patron-of-ty-hafan\/"},"modified":"2025-01-30T14:21:18","modified_gmt":"2025-01-30T14:21:18","slug":"the-princess-of-wales-becomes-patron-of-ty-hafan","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/2025\/01\/30\/the-princess-of-wales-becomes-patron-of-ty-hafan\/","title":{"rendered":"Tywysoges Cymru yn dod yn noddwr T\u0177 Hafan"},"content":{"rendered":"<p>Heddiw, mae Tywysoges Cymru wedi dod yn Noddwr Hosbis Plant T\u0177 Hafan, yr hosbis plant gyntaf yng Nghymru.<\/p>\n<p>Mae T\u0177 Hafan yn darparu gofal a chymorth am ddim i blant sydd \u00e2 chyflyrau sy&#8217;n byrhau bywyd a&#8217;u teuluoedd, yn yr hosbis ac mewn cartrefi a chymunedau yng Nghymru. Mae T\u0177 Hafan yn cynnig achubiaeth hollbwysig drwy gydol bywyd plentyn, yn ogystal ag ar ddiwedd oes \u2013 drwy brofedigaeth a thu hwnt.<\/p>\n<p>Wrth wraidd T\u0177 Hafan mae ymrwymiad i ddarparu cefnogaeth gyfannol, gan ganolbwyntio ar anghenion corfforol, emosiynol, cymdeithasol ac ysbrydol y plant sy\u2019n cael gofal a&#8217;u teuluoedd. Mae&#8217;r sefydliad hefyd yn canolbwyntio ar feithrin cysylltiadau, gan greu teimlad o gymuned sy&#8217;n sicrhau bod plant a theuluoedd yn teimlo eu bod yn cael mwy o gefnogaeth drwy eu profiadau cyffredin.<\/p>\n<p>Daw&#8217;r cyhoeddiad wrth i&#8217;r Dywysoges ymweld \u00e2 hosbis T\u0177 Hafan yn Sili, ger Caerdydd yn ne Cymru, lle treuliodd amser gyda phlant, teuluoedd a staff.<\/p>\n<p>Dywedodd Irfon Rees, Prif Weithredwr T\u0177 Hafan:<\/p>\n<p>&#8220;Mae&#8217;n anrhydedd mawr i ni fod Ei Huchelder Brenhinol Tywysoges Cymru bellach yn Noddwr T\u0177 Hafan ac roedd yn bleser llwyr ei chroesawu i&#8217;n hosbis am y tro cyntaf heddiw. Fel ein Noddwr, bydd Ei Huchelder Brenhinol yn ysbrydoliaeth i blant sydd \u00e2 chyflyrau sy&#8217;n byrhau bywyd a&#8217;u teuluoedd, ein staff a&#8217;n gwirfoddolwyr ymroddedig a phawb sydd mor hael yn ein cefnogi. Nid oes unrhyw riant byth yn dychmygu y bydd bywyd ei blentyn yn fyr. Yn anffodus, dyma&#8217;r realiti sy&#8217;n wynebu miloedd o deuluoedd yng Nghymru. Allwn ni ddim atal hyn rhag digwydd, ond gyda&#8217;n gilydd gallwn ni wneud yn si\u0175r nad oes neb yn byw bywyd byr ei blentyn ar ei ben ei hun.&#8221;<\/p>\n<p>Mae llesiant plant a&#8217;u teuluoedd bob amser wedi bod yn agos at galon y Dywysoges. Y nawdd cyntaf yr ymgymerodd Ei Huchelder Brenhinol ag ef pan ddaeth yn Aelod o&#8217;r<\/p>\n<p>Teulu Brenhinol oedd EACH (East Anglia&#8217;s Children&#8217;s Hospice) ac mae hi&#8217;n cynnal perthynas agos \u00e2&#8217;r sefydliad hyd heddiw. Mae&#8217;r Dywysoges yn edrych ymlaen at greu perthynas debyg gyda T\u0177 Hafan a&#8217;r plant a&#8217;r teuluoedd y mae&#8217;n eu gwasanaethu yng Nghymru.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Heddiw, mae Tywysoges Cymru wedi dod yn Noddwr Hosbis Plant T\u0177 Hafan, yr hosbis plant gyntaf yng Nghymru. Mae T\u0177 Hafan yn darparu gofal a chymorth am ddim i blant sydd \u00e2 chyflyrau sy&#8217;n byrhau bywyd a&#8217;u teuluoedd, yn yr&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":2945,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[31],"tags":[],"class_list":["post-2944","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-dan-sylw"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2944","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2944"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2944\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2952,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2944\/revisions\/2952"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2945"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2944"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2944"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2944"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}