{"id":2786,"date":"2024-10-03T14:33:32","date_gmt":"2024-10-03T14:33:32","guid":{"rendered":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/2024\/10\/03\/alfis-story\/"},"modified":"2024-10-14T09:04:54","modified_gmt":"2024-10-14T09:04:54","slug":"stori-alfi","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/2024\/10\/03\/stori-alfi\/","title":{"rendered":"Stori Alfi"},"content":{"rendered":"<p>Ganwyd Alfi gyda syndrom Marfan newyddanedig, cyflwr prin a oedd yn golygu y byddai ei fywyd yn un byr.<\/p>\n<p>\u201cAr 1 Mai 2013, daeth Alfi Jay a Besi Jane i&#8217;r byd,\u201d meddai Sara.<\/p>\n<p>\u201cDaeth ein bywydau yn berffaith yn yr ychydig eiliadau hynny ac roedd y blynyddoedd o driniaethau IUI ac IVF anodd i gael ein dau wyrth anhygoel werth y cyfan.<\/p>\n<p>\u201cOnd wnaeth yr hapusrwydd ddim para&#8217;n hir. O fewn awr i&#8217;r adeg pan gyrhaeddodd ein babis annwyl, aeth Alfi yn s\u00e2l iawn a chafodd ei frysio i&#8217;r uned fabanod. Roedd yr ychydig fisoedd nesaf yn ddryslyd. Roeddem ni&#8217;n gwybod nad oedd prognosis Alfi yn dda. Roedd bywyd gyda&#8217;r efeilliaid yn werthfawr ac fe wnaethom ni geisio creu cymaint o atgofion ag y gallem.&#8221;<\/p>\n<p>Argymhellwyd T\u0177 Hafan i Sara a Jason pan oedd Alfi a Besi yn 9 mis oed. Daethon nhw i&#8217;n hosbis am eu seibiant byr cyntaf, a&#8217;u hunig seibiant byr, ychydig cyn Nadolig 2014, lle&#8217;r oedden nhw&#8217;n gallu ymlacio fel teulu yn gwybod y byddai&#8217;r staff yn gofalu am anghenion meddygol Alfi.<\/p>\n<p>\u201cYn T\u0177 Hafan, cafodd Jason a fi y cyfle i dreulio amser o ansawdd gyda&#8217;r efeilliaid,\u201d Cofia Sara.<\/p>\n<p>\u201cAm y tro cyntaf, doedd dim angen i ni osod ein larymau, poeni am feddyginiaeth na phoeni am bacio holl offer meddygol Alfi. Roedd rhywun arall yn gyfrifol am hynny.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignleft wp-image-2787 \" src=\"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2024\/10\/Jason-Alfi-Sarah-and-Besi-1-jpeg.webp\" alt=\"Sara, Jason and Besi\" width=\"552\" height=\"587\" srcset=\"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2024\/10\/Jason-Alfi-Sarah-and-Besi-1-jpeg.webp 672w, https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2024\/10\/Jason-Alfi-Sarah-and-Besi-1-jpeg-282x300.webp 282w, https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2024\/10\/Jason-Alfi-Sarah-and-Besi-1-jpeg-600x638.webp 600w\" sizes=\"(max-width: 552px) 100vw, 552px\" \/><\/p>\n<p>\u201cByddwn ni&#8217;n cofio&#8217;r penwythnos hwnnw am byth. Fe wnaethon ni chwarae yn y parc, nofio yn y pwll hydrotherapi, mynd i weld Si\u00f4n Corn a bwyta cinio Nadolig fel teulu. Gwnaeth Alfi hyd yn oed fentro i ffwrdd ar ei ben ei hun gyda&#8217;i nyrs un-i-un ei hun i weld Anna, Elsa, Olaf a Si\u00f4n Corn. O&#8217;r funud honno ymlaen, daeth T\u0177 Hafan yn rhan enfawr o&#8217;n bywydau.&#8221;<\/p>\n<p>Bu farw Alfi yn heddychlon ym mreichiau ei dad ar y cyntaf o Fawrth 2015, Dydd G\u0175yl Dewi ac, yn drist iawn, pen-blwydd priodas Sarah a Jason.<\/p>\n<p>\u201cErs ei farwolaeth, mae T\u0177 Hafan wedi bod o gymorth enfawr i ni. Rydyn ni&#8217;n dal i gael cefnogaeth gan ein Gweithiwr Cymorth Teulu ac rydyn ni&#8217;n gwybod y bydd T\u0177 Hafan yno i ni pryd bynnag a sut bynnag y byddwn ni eu hangen nhw,\u201d meddai Sara.<\/p>\n<p>&#8220;Rydyn ni&#8217;n ymweld \u00e2 T\u0177 Hafan yn rheolaidd. Galla i ddim dechrau disgrifio&#8217;r hyn mae T\u0177 Hafan yn ei olygu i ni fel teulu, ond un peth rwyf yn ei wybod yw y byddaf yn ddiolchgar am byth am yr atgofion y maen nhw wedi rhoi cyfle i ni eu creu ac rydym ni&#8217;n dal i&#8217;w creu hyd heddiw.&#8221;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h2><\/h2>\n<h2>Cymorth i&#8217;r teulu cyfan. Bob amser.<\/h2>\n<p>Rydym yn rhoi cymorth ymarferol ac emosiynol drwy ofal diwedd oes a thu hwnt, cyhyd ag y bydd y teulu ein hangen ni.<\/p>\n<h3>Cymorth i frodyr a chwiorydd<\/h3>\n<p>Gall brodyr a chwiorydd gael cymorth unigol neu Therapi Chwarae, os oes angen, i&#8217;w helpu i ymdopi \u00e2 galar a thrawma colli brawd neu chwaer. Gallant ymuno \u00e2&#8217;n grwpiau Supersibs i ddod i gysylltiad \u00e2 phlant eraill sy&#8217;n gallu uniaethu \u00e2&#8217;u profiadau.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright wp-image-2789 size-full\" src=\"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2024\/10\/Off-on-a-trip-to-Ty-Hafan-1-jpeg.webp\" alt=\"Alfi and Besi wearing Christmas hats\" width=\"251\" height=\"320\" srcset=\"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2024\/10\/Off-on-a-trip-to-Ty-Hafan-1-jpeg.webp 251w, https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2024\/10\/Off-on-a-trip-to-Ty-Hafan-1-jpeg-235x300.webp 235w\" sizes=\"(max-width: 251px) 100vw, 251px\" \/><\/p>\n<h3>Cymorth i rieni<\/h3>\n<p>Rydym yn cynnig cymorth unigol ac mewn gr\u0175p, gan gynnwys grwpiau cymorth i famau ac i dadau, yn yr hosbis ac yn y gymuned.<\/p>\n<h3>Cymorth ymarferol<\/h3>\n<p>Rydyn ni&#8217;n ysgwyddo&#8217;r cyfrifoldeb am rai o&#8217;r elfenau ymarferol fel bod teuluoedd yn gallu canolbwyntio ar fod gyda&#8217;i gilydd ar yr adegau anoddaf, gan gynnwys cynllunio gofal diwedd oes, cofrestru marwolaeth plentyn a chynllunio&#8217;r angladd.<\/p>\n<h3>Therapi Cyflenwol<\/h3>\n<p>Mae ein t\u00eem Therapi Cyflenwol yn darparu tylino, aromatherapi, adweitheg a mwy i annog ymlacio, lleddfu poen ac yn syml, i roi gwybod bod rhywun yn poeni.<\/p>\n<h3>Mae eich rhoddion yn newid bywydau<\/h3>\n<p>Mae rhodd i T\u0177 Hafan yn helpu teulu drwy&#8217;r adeg dywyllaf y gellir ei dychmygu. I roi heddiw, <a href=\"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/donate\">cliciwch yma<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ganwyd Alfi gyda syndrom Marfan newyddanedig, cyflwr prin a oedd yn golygu y byddai ei fywyd yn un byr. \u201cAr 1 Mai 2013, daeth Alfi Jay a Besi Jane i&#8217;r byd,\u201d meddai Sara. \u201cDaeth ein bywydau yn berffaith yn yr&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":2076,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[26,92],"tags":[],"class_list":["post-2786","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cwtch","category-family-stories"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2786","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2786"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2786\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2808,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2786\/revisions\/2808"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2076"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2786"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2786"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2786"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}