{"id":2550,"date":"2024-07-07T21:45:45","date_gmt":"2024-07-07T21:45:45","guid":{"rendered":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/?p=2550"},"modified":"2024-07-07T21:45:45","modified_gmt":"2024-07-07T21:45:45","slug":"ac-i-ffwrdd-a-nhw-bron-iawn","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/2024\/07\/07\/ac-i-ffwrdd-a-nhw-bron-iawn\/","title":{"rendered":"Ac i ffwrdd \u00e2 nhw (bron iawn)!"},"content":{"rendered":"<p><strong>Y bore yma (dydd Mercher 26 Mehefin) mae naw tad, ewythr a chyfaill gyda chefnogaeth Hosbis Plant T\u0177 Hafan wedi cychwyn taith i Gonwy yng ngogledd Cymru wrth iddynt baratoi i ymgymryd \u00e2&#8217;u her codi arian eithafol ddiweddaraf.<\/strong><\/p>\n<p>Bydd Paul Fears, Dan Forbes, Ryan Tomlinson, Chris Thomas, James Meacham, Lee Morgan ac Anthony Boggis, sy\u2019n dadau T\u0177 Hafan, yn ymuno \u00e2 Laurence Morgan, brawd Lee, a Jason Foster, Cyfarwyddwr Cyllid T\u0177 Hafan ar gyfer yr her #BikeBoatBoot epig dros gyfnod o bedwar diwrnod.<\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Gan ddechrau yfory a gorffen ddydd Sul, bydd y t\u00eem yn beicio oddi ar y ffordd, yn cerdded milltiroedd o lwybrau mynydd ac yn caiacio hyd Llyn Tegid. Mae&#8217;r pellter amcangyfrifedig dros 200 milltir a bydd y t\u00eem yn dringo bron i 28,000 troedfedd a&#8217;r cyfan mewn ymgais i godi \u00a350,000 i&#8217;r hosbis plant. I weld y llwybr ewch i: <\/span><a href=\"https:\/\/explore.osmaps.com\/route\/20179619\/ty-hafan-bbb-full-route-?lat=52.450794&amp;lon=-4.665744&amp;zoom=7.0043&amp;style=Standard&amp;type=2d\"><span data-contrast=\"none\">Ty Hafan BBB FULL ROUTE (osmaps.com)<\/span><\/a><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559739&quot;:160,&quot;335559740&quot;:279}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Hyd yn hyn, mae&#8217;r t\u00eem wedi codi mwy na \u00a335,000 ac maent yn gobeithio torri eu targed erbyn diwedd y penwythnos: <\/span><a href=\"https:\/\/www.justgiving.com\/campaign\/bike-boat-boot\"><span data-contrast=\"none\">Bike Boat Boot Challenge for T\u0177 Hafan &#8211; JustGiving<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\">.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;134233117&quot;:false,&quot;134233118&quot;:false,&quot;201341983&quot;:0,&quot;335551550&quot;:0,&quot;335551620&quot;:0,&quot;335559738&quot;:0,&quot;335559739&quot;:0,&quot;335559740&quot;:279}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p>Dywedodd Lee, o Fynydd Cynffig: &#8220;Dim ond saith wythnos oed oedd fy mab Ezra pan fu farw o gyflwr genetig o&#8217;r enw SMA Math 1 nad oeddem ni\u2019n ymwybodol ohono nes iddo fynd yn s\u00e2l ym mis Mawrth 2015.<\/p>\n<p>&#8220;Ar y pryd roedd Bailey, chwaer Ezra, yn ddwy oed. Fel y gallwch chi ddychmygu roedd yn gyfnod gofidus iawn i ni fel teulu. Roedd T\u0177 Hafan yn gwbl anhygoel gan ein gwneud i ni deimlo\u2019n gwbl gartrefol! Doedd dim byd yn ormod, fe wnaethon nhw i&#8217;r atgofion olaf gyfri! Maen nhw&#8217;n dal i&#8217;n cefnogi ni nawr.<\/p>\n<p><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559739&quot;:160,&quot;335559740&quot;:279}\">&#8220;Rwy&#8217;n mynd yn fwy nerfus ac yn gyffrous wrth i\u2019r her agos\u00e1u ac yn gwedd\u00efo am dywydd braf.&#8221; <\/span><\/p>\n<p><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559739&quot;:0,&quot;335559740&quot;:259}\">Cafodd Rhys, mab Anthony Boggis o Aberd\u00e2r, ddiagnosis mai ef oedd y person cyntaf yn y byd gyda chyflwr iechyd a achoswyd gan ddileu genynnau mewn un cromosom ac roedd T\u0177 Hafan yn gofalu amdano. <\/span><\/p>\n<p>&#8220;Dim ond 16 oed oedd Rhys pan fu farw ar 12 Gorffennaf 2019. Brwydrodd Rhys bob dydd am 16 mlynedd ac rwy&#8217;n ymgymryd \u00e2&#8217;r her hon er cof amdano. Ar ben hynny, dyma fy ffordd i o ddiolch i T\u0177 Hafan am y gefnogaeth a roddwyd i Rhys a&#8217;r gefnogaeth y maen nhw\u2019n dal i&#8217;w rhoi i fy nheulu ac yn arbennig i Carys, chwaer Rhys,&#8221; meddai Anthony.<\/p>\n<p><span data-ccp-props=\"{&quot;134233117&quot;:false,&quot;134233118&quot;:false,&quot;201341983&quot;:0,&quot;335551550&quot;:0,&quot;335551620&quot;:0,&quot;335559738&quot;:0,&quot;335559739&quot;:0,&quot;335559740&quot;:279}\">&#8220;Mae gen i gymysgedd o emosiynau o deimlo&#8217;n gyffrous ac yn edrych ymlaen at yr her, y cyfeillgarwch rhyngom ni i gyd, i deimlo&#8217;n dorcalonnus ac yn bryderus am faint yr her. <\/span><\/p>\n<p>&#8220;Yna mae&#8217;r teimlad o fod yn benderfynol o gwblhau&#8217;r dasg o ystyried yr hyn y gwnaeth Rhys frwydro drwyddo yn ddyddiol a bod yn benderfynol o wneud Rhys a fy nheulu yn falch er cof amdano.&#8221;<\/p>\n<p><span data-ccp-props=\"{&quot;134233117&quot;:false,&quot;134233118&quot;:false,&quot;201341983&quot;:0,&quot;335551550&quot;:0,&quot;335551620&quot;:0,&quot;335559738&quot;:0,&quot;335559739&quot;:0,&quot;335559740&quot;:279}\">Dywedodd James Meacham, o Bontllanfraith: &#8220;Mae gen i deimlad o gyffro nerfus, os oes y fath beth. Rydyn ni&#8217;n gwybod y bydd hi&#8217;n anodd, ond rydyn ni i gyd wedi hyfforddi&#8217;n galed a&#8217;r gr\u0175p hwn yw&#8217;r bobl fwyaf cryf yn feddyliol rwy&#8217;n eu hadnabod. <\/span><\/p>\n<p>&#8220;Byddwn ni\u2019n cael ein gilydd drwyddo, oherwydd rydyn ni&#8217;n gwybod faint mae T\u0177 Hafan yn ei olygu ond hefyd oherwydd ei fod yn gyfle enfawr i fod yn agored a siarad \u00e2 phobl mewn demograffig bach iawn (rhieni mewn profedigaeth neu rieni plant \u00e2 salwch terfynol) ac mae hynny&#8217;n amhrisiadwy.&#8221;<\/p>\n<p>Ychwanegodd James: &#8220;Dim ond naw oed oedd fy mab Thomas pan fu farw ar 2 Mehefin 2019. Dydw i ddim yn gwybod ble fydden ni heb T\u0177 Hafan ac mae gwneud yr her yma yn un ffordd y gallaf roi yn \u00f4l.&#8221;<\/p>\n<p>Cafodd Scarlett, merch Chris Thomas o Gaerffili, ddiagnosis o gyflwr cromosomaidd mor brin fel nad oedd ganddo enw. Yn saith mis oed, dechreuodd Scarlett, ei mam Clair a Chris gael cefnogaeth gan hosbis T\u0177 Hafan. Bu farw Scarlett ym mis Medi 2018 yn ddim ond pedair oed.<\/p>\n<p>&#8220;Dim ond taith feic, padlo a cherdded gyda&#8217;r bechgyn am, sori, pa mor bell? 200 milltir a mwy!&#8221; chwarddodd Chris. &#8220;Dwi&#8217;n edrych ymlaen ato, ond mae\u2019n mynd i fod yn anodd yn gorfforol ac yn feddyliol!<\/p>\n<p>&#8220;Yn gorfforol rydyn ni i gyd wedi treulio oriau yn paratoi cymaint \u00e2 phosib &#8211; a chwarae teg i\u2019r holl wragedd a\u2019r cariadon am dderbyn hyn.<\/p>\n<p>&#8220;Ond yn feddyliol, mae hynny&#8217;n dod gan gefnogaeth ein t\u00eem ar y diwrnod &#8211; mae&#8217;r dynion hyn yn anhygoel, peidiwch \u00e2 dweud wrthyn nhw fy mod wedi dweud hynny!<\/p>\n<p><span data-ccp-props=\"{&quot;134233117&quot;:false,&quot;134233118&quot;:false,&quot;201341983&quot;:0,&quot;335551550&quot;:0,&quot;335551620&quot;:0,&quot;335559738&quot;:0,&quot;335559739&quot;:0,&quot;335559740&quot;:279}\">&#8220;Mae T\u0177 Hafan fel teulu neu glwb cefnogol, ond hoffwn pe na bai&#8217;n rhaid i neb ymuno ag ef. Ond mae&#8217;n gwbl hanfodol ei fod yno. Mae meddwl am rywun yn gorfod mynd trwy&#8217;r profiad gwaethaf mewn bywyd heb y gefnogaeth hon yn codi ofn arna i. <\/span><\/p>\n<p><span data-ccp-props=\"{&quot;134233117&quot;:false,&quot;134233118&quot;:false,&quot;201341983&quot;:0,&quot;335551550&quot;:0,&quot;335551620&quot;:0,&quot;335559738&quot;:0,&quot;335559739&quot;:0,&quot;335559740&quot;:279}\">&#8220;Rydyn ni&#8217;n gwneud yr heriau hyn i helpu i sicrhau bod rhywun yno pan fydd eich byd chi&#8217;n chwalu o&#8217;ch cwmpas. T\u0177 Hafan yw hwnnw. Ond mae&#8217;n fwy na hynny, cewch gyfle i fwynhau amser gyda&#8217;ch gilydd a chreu atgofion a fydd yn para am oes <\/span><\/p>\n<p>&#8220;Weithiau atgofion yw&#8217;r cyfan sydd gennych i chi ddal gafael arnyn nhw. Mae&#8217;r amseroedd hapus maen nhw&#8217;n eu creu yr un mor bwysig \u00e2&#8217;r gefnogaeth.&#8221;<\/p>\n<p>Dywedodd Dan Forbes, o Lanilltud Fawr: &#8220;Rwy&#8217;n teimlo cymysgedd o gyffro a dychryn. Yn gyffrous i fynd i ddechrau arni, mynd amdani ac anghofio bywyd bob dydd am ychydig. Edrych ymlaen at gael chwerthin a gweld y bechgyn. Y sgyrsiau sy&#8217;n dod o&#8217;r heriau hyn yw&#8217;r uchafbwynt i mi bob amser.&#8221;<\/p>\n<p>Mae mab Dan, Felix, sy\u2019n 12 oed, yn cael ei gefnogi gan T\u0177 Hafan ers pan oedd yn dri mis oed pan gafodd ddiagnosis o gyflwr genetig prin o&#8217;r enw Lissencephaly gyda Syndrom Miller-Dieker.<\/p>\n<p>&#8220;Yn amlwg mae rhywfaint o bryder oherwydd anferthedd yr her ond rwy&#8217;n gwybod, wrth i ni fynd drwy&#8217;r adegau anodd anochel fel unigolion, y bydd p\u0175er y gr\u0175p yn cofleidio y person yna, yn drosiadol ac yn gorfforol, ac yn ei ysgogi i fynd ymlaen,&#8221; ychwanegodd Dan.<\/p>\n<p>Mae Ryan Tomlinson o Rhymni yn ymgymryd \u00e2&#8217;r her #BikeBoatBoot wedi\u2019i ysbrydoli gan ei fab blwydd oed, Talis, a gafodd ddiagnosis o syndrom Leigh, cyflwr mitocondria prin, yn saith mis oed.<\/p>\n<p><span data-ccp-props=\"{&quot;134233117&quot;:false,&quot;134233118&quot;:false,&quot;201341983&quot;:0,&quot;335551550&quot;:0,&quot;335551620&quot;:0,&quot;335559738&quot;:210,&quot;335559739&quot;:210,&quot;335559740&quot;:279}\">&#8220;Mae maint yr her yn rhywbeth na feddyliais i erioed y byddwn i&#8217;n gallu ei wneud. Dwi&#8217;n teimlo cymysgedd o emosiynau! Rwy&#8217;n nerfus fy mod yn gadael fy nheulu ond hefyd yn gyffrous i gymryd rhan yn y genhadaeth hon i feicio, rhwyfo a cherdded ledled Cymru,&#8221; meddai. <\/span><\/p>\n<p><span data-ccp-props=\"{&quot;134233117&quot;:false,&quot;134233118&quot;:false,&quot;201341983&quot;:0,&quot;335551550&quot;:1,&quot;335551620&quot;:1,&quot;335559685&quot;:0,&quot;335559737&quot;:0,&quot;335559738&quot;:210,&quot;335559739&quot;:210,&quot;335559740&quot;:279}\">&#8220;Byddaf yn cadw fy mab mewn cof wrth wneud hynny, bydd ei gryfder i barhau i ymladd bob dydd yn fy ngwneud yn benderfynol o barhau i wthio drwyddo os bydd yn anodd. Bydd yr arian a godir, heb os, yn sylweddol i D\u0177 Hafan. Nid hosbis yn unig yw T\u0177 Hafan. Mae T\u0177 Hafan yn rhoi ystyr newydd i \u2018teulu\u2019.&#8221; <\/span><\/p>\n<p>Yn olaf, dywedodd Paul Fears, o Bentre&#8217;r Eglwys ac arweinydd y gr\u0175p: &#8220;Fe gollon ni ein mab Greg ar 14 Chwefror 2023 pan oedd yn 31 oed. Cafodd ei eni gyda chyflwr ysgyfaint a chalon sy&#8217;n byrhau bywyd, a dywedwyd wrthym ni i ddechrau mai dim ond pum mlynedd oedd ei ddisgwyliad oes. Yng nghanol ei arddegau, aeth Greg yn s\u00e2l iawn a chawsom ein hatgyfeirio i T\u0177 Hafan, lle cafodd ein teulu ofal a chefnogaeth anhygoel am flynyddoedd lawer. Mewn gwirionedd, rydym wedi bod yn rhan o deulu T\u0177 Hafan byth ers hynny, hyd yn oed pan gyrhaeddodd Greg 19 oed ac na allai aros yn yr hosbis mwyach. Mae ymgymryd \u00e2&#8217;r her er cof am Greg yn rhoi cyfle i mi ddiolch i T\u0177 Hafan a threulio amser gwerthfawr gyda thadau eraill. Bydd cerdded, beicio a chaiacio ar hyd Cymru yn heriol dros ben, ond nid yw&#8217;n ddim o&#8217;i gymharu \u00e2&#8217;r hyn sy&#8217;n wynebu Greg a phlant eraill T\u0177 Hafan yn ddyddiol. Greg oedd y person dewraf i mi ei adnabod erioed. Fe yw fy ysbrydoliaeth ac rwy&#8217;n ei golli&#8217;n fawr.&#8221;<\/p>\n<p>Dywedodd James Davies-Hale, Pennaeth Codi Arian T\u0177 Hafan: &#8220;Pan fydd bywyd plentyn yn un byr, ni ddylai unrhyw deulu orfod ei wynebu ar eu pen eu hun. Mae mwy na 3,000 o blant yng Nghymru \u00e2 chyflyrau sy\u2019n byrhau bywyd ar hyn o bryd a dim ond un o bob deg o&#8217;r teuluoedd hynny y gallwn ni eu cefnogi.<\/p>\n<p>&#8220;Rydyn ni mor ddiolchgar i&#8217;r t\u00eem #BikeBoatBoot am bopeth maen nhw&#8217;n ei wneud, nid yn unig o ran yr holl arian maen nhw&#8217;n ei godi i ni, ond am sut maen nhw mor ddewr yn rhannu eu straeon eu hunain am sut rydyn ni wedi gallu eu cefnogi.<\/p>\n<p>&#8220;Rwy&#8217;n gobeithio y bydd pawb yn eu cefnogi wrth iddyn nhw wynebu&#8217;r her epig hon, yn eu helpu i dorri eu targed codi arian o \u00a350,000 a\u2019u bod yn cael pedwar diwrnod diogel a llwyddiannus.&#8221;<\/p>\n<p><span data-ccp-props=\"{&quot;134233117&quot;:false,&quot;134233118&quot;:false,&quot;201341983&quot;:0,&quot;335551550&quot;:0,&quot;335551620&quot;:0,&quot;335559738&quot;:0,&quot;335559739&quot;:0,&quot;335559740&quot;:279}\"> I wybod mwy ac i gefnogi&#8217;r t\u00eem, ewch i<\/span><span data-contrast=\"auto\">: <\/span><a href=\"https:\/\/www.justgiving.com\/campaign\/bike-boat-boot\"><span data-contrast=\"none\">Bike Boat Boot Challenge for T\u0177 Hafan &#8211; JustGiving<\/span><\/a><span data-ccp-props=\"{&quot;134233117&quot;:false,&quot;134233118&quot;:false,&quot;201341983&quot;:0,&quot;335551550&quot;:0,&quot;335551620&quot;:0,&quot;335559738&quot;:0,&quot;335559739&quot;:0,&quot;335559740&quot;:279}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-ccp-props=\"{&quot;134233117&quot;:false,&quot;134233118&quot;:false,&quot;201341983&quot;:0,&quot;335551550&quot;:0,&quot;335551620&quot;:0,&quot;335559738&quot;:0,&quot;335559739&quot;:0,&quot;335559740&quot;:279}\">Gallwch ddilyn eu taith ar: <\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;134233117&quot;:false,&quot;134233118&quot;:false,&quot;201341983&quot;:0,&quot;335551550&quot;:0,&quot;335551620&quot;:0,&quot;335559738&quot;:0,&quot;335559739&quot;:0,&quot;335559740&quot;:279}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"none\">Facebook &#8211; <\/span><a href=\"https:\/\/www.facebook.com\/5in55\"><span data-contrast=\"none\">https:\/\/www.facebook.com\/5in55<\/span><\/a><span data-ccp-props=\"{&quot;134233117&quot;:false,&quot;134233118&quot;:false,&quot;201341983&quot;:0,&quot;335551550&quot;:0,&quot;335551620&quot;:0,&quot;335559738&quot;:0,&quot;335559739&quot;:0,&quot;335559740&quot;:279}\">\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;134233117&quot;:false,&quot;134233118&quot;:false,&quot;201341983&quot;:0,&quot;335551550&quot;:0,&quot;335551620&quot;:0,&quot;335559738&quot;:0,&quot;335559739&quot;:0,&quot;335559740&quot;:279}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"none\">X &#8211; <\/span><a href=\"https:\/\/x.com\/5in55\"><span data-contrast=\"none\">#BikeBoatBoot (@5in55) \/ X<\/span><\/a><span data-ccp-props=\"{&quot;134233117&quot;:false,&quot;134233118&quot;:false,&quot;201341983&quot;:0,&quot;335551550&quot;:0,&quot;335551620&quot;:0,&quot;335559738&quot;:0,&quot;335559739&quot;:0,&quot;335559740&quot;:279}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559739&quot;:160,&quot;335559740&quot;:279}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-2551 size-full\" src=\"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2024\/06\/BikeBoatBoot-formal-pose-26-June-web-size.jpg\" alt=\"Bike Boat Boot team formal pose 26 June 2024\" width=\"567\" height=\"378\" srcset=\"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2024\/06\/BikeBoatBoot-formal-pose-26-June-web-size.jpg 567w, https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2024\/06\/BikeBoatBoot-formal-pose-26-June-web-size-300x200.jpg 300w\" sizes=\"(max-width: 567px) 100vw, 567px\" \/><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Y bore yma (dydd Mercher 26 Mehefin) mae naw tad, ewythr a chyfaill gyda chefnogaeth Hosbis Plant T\u0177 Hafan wedi cychwyn taith i Gonwy yng ngogledd Cymru wrth iddynt baratoi i ymgymryd \u00e2&#8217;u her codi arian eithafol ddiweddaraf. Bydd Paul&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":340,"featured_media":2553,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[80,82,81,79],"tags":[],"class_list":["post-2550","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-announcements","category-featured","category-latest-news","category-news"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2550","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/340"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2550"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2550\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2595,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2550\/revisions\/2595"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2553"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2550"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2550"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2550"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}