{"id":2508,"date":"2024-06-18T07:13:38","date_gmt":"2024-06-18T07:13:38","guid":{"rendered":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/?p=2508"},"modified":"2024-06-19T15:52:01","modified_gmt":"2024-06-19T15:52:01","slug":"ymgais-hosbisau-plant-cymru-i-lanio-neges-ariannu-iar-fach-yr-haf-cyrraeddpobplentyn-yn-y-senedd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/2024\/06\/18\/ymgais-hosbisau-plant-cymru-i-lanio-neges-ariannu-iar-fach-yr-haf-cyrraeddpobplentyn-yn-y-senedd\/","title":{"rendered":"Neges ariannu i\u00e2r fach yr haf #CyrraeddPobPlentyn yn glanio yn y Senedd"},"content":{"rendered":"<p class=\"p1\"><strong>Heddiw, ddydd Mawrth (18 Mehefin), dwy hosbis plant Cymru wedi datgelu i\u00e2r fach yr haf enfawr, wedi\u2019i chreu yn rhannol gan y plant y maen nhw\u2019n gofalu amdanynt, ar risiau\u2019r Senedd wrth iddyn nhw alw eto ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i gyllid cynaliadwy ar eu cyfer.\u00a0<\/strong><\/p>\n<p class=\"p1\">Mae\u2019r gwaith celf i\u00e2r fach yr haf 8 metr gan 6 metr #CyrraeddPobPlentyn yn cynnwys 3,655 o ieir bach yr haf bach, sy\u2019n cynrychioli nifer y plant \u00e2 chyflyrau sy\u2019n byrhau bywyd yng Nghymru ac sydd wedi\u2019i greu gan blant y mae hosbisau, staff a gwirfoddolwyr yn eu cefnogi ar hyn o bryd.<\/p>\n<p class=\"p1\">Ar hyn o bryd mae T\u0177 Hafan a T\u0177 Gobaith yn cefnogi un o bob 10 plentyn ledled Cymru sydd wedi cael diagnosis o gyflwr sy\u2019n byrhau bywyd. Arddangos eu i\u00e2r fach yr haf #CyrraeddPobPlentyn ar risiau\u2019r Senedd yw\u2019r cam diweddaraf yn eu hymgyrch pum mlynedd i gael Llywodraeth Cymru i ymrwymo i ariannu 21% o\u2019u costau gofal blynyddol. Ar hyn o bryd mae hosbisau plant yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a\u2019r Alban yn derbyn rhwng 30% a 50% o\u2019u costau gofal blynyddol gan eu llywodraethau priodol.<\/p>\n<p class=\"p1\">Ar hyn o bryd dim ond 12% o\u2019u costau gofal blynyddol y mae T\u0177 Hafan a T\u0177 Gobaith, ar y cyd, yn ei dderbyn yn rheolaidd gan Lywodraeth Cymru.<\/p>\n<p class=\"p1\">Dywedodd Irfon Rees, Prif Weithredwr T\u0177 Hafan: &#8220;Yn 2021\/22 fe wnaeth Llywodraeth Cymru ateb ein cais i ariannu 21% o\u2019n costau gofal ar gyfer hosbisau plant Cymru.\u202fFodd bynnag, mewn termau real, mae\u2019r cyllid rheolaidd hwn erbyn hyn wedi gostwng i ychydig llai na 12% o gostau gofal yr hosbisau.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-large wp-image-2532\" src=\"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2024\/06\/Butterfly-at-Senedd-1-1024x768.jpg\" alt=\"\" width=\"1024\" height=\"768\" srcset=\"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2024\/06\/Butterfly-at-Senedd-1-1024x768.jpg 1024w, https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2024\/06\/Butterfly-at-Senedd-1-300x225.jpg 300w, https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2024\/06\/Butterfly-at-Senedd-1-768x576.jpg 768w, https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2024\/06\/Butterfly-at-Senedd-1-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2024\/06\/Butterfly-at-Senedd-1-600x450.jpg 600w, https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2024\/06\/Butterfly-at-Senedd-1.jpg 2048w\" sizes=\"(max-width: 706px) 89vw, (max-width: 767px) 82vw, 740px\" \/><\/p>\n<p class=\"p1\">&#8220;Yn 2023 fe wnaethom ni lansio adroddiad \u2018Tueddiadau o ran y Nifer o Achosion a\u2019r Cymhlethdod\u2019. Dangosodd yr adroddiad hwnnw fod 3,655 o blant yng Nghymru \u00e2 chyflwr sy\u2019n byrhau bywyd. Mae\u2019r nifer wedi bod yn cynyddu ers blynyddoedd ac mae\u2019n parhau ar drywydd ar i fyny.<\/p>\n<p class=\"p1\">&#8220;Mae angen cyllid Llywodraeth Cymru arnom ni i ymdopi \u00e2\u2019r angen am ein gwasanaethau, a chostau, ein gwasanaethau.&#8221;<\/p>\n<p class=\"p1\">Dywedodd Andy Goldsmith, Prif Weithredwr T\u0177 Gobaith: &#8220;Rydyn ni\u2019n gwybod y gallwn ni wneud mwy. Rydyn ni\u2019n gwybod bod yn rhaid i ni wneud mwy i gyrraedd y 3,655 o deuluoedd sydd wedi gorfod cael y sgwrs nad ydych chi byth eisiau ei chael ac sy\u2019n chwilio\u2019n daer am gefnogaeth.<\/p>\n<p class=\"p1\">&#8220;Rydyn ni\u2019n gwybod y gallwn ni ddarparu cefnogaeth, gwasanaethau a gw\u00ean i fwy o\u2019r 3,655 o deuluoedd sy\u2019n ofnus, yn ynysig, wedi\u2019u llethu ac sy\u2019n wynebu bob dydd gan ofni y gallai fod yn ddiwrnod olaf eu plentyn, gwasanaethau y mae teuluoedd yn eu galw\u2019n achubiaeth.<\/p>\n<p class=\"p1\">&#8220;Yn ystod Wythnos Hosbisau Plant, rydyn ni\u2019n galw ar y Llywodraeth i roi\u2019r cymorth, yr help a\u2019r arian i ni fel y byddwn ni yma ar gyfer pob plentyn a theulu sy\u2019n troi atom. I gyflawni\u2019r addewid hwnnw. I roi\u2019r cyllid cynaliadwy a\u2019r dyfodol diogel i ni gefnogi pob plentyn a theulu sydd ein hangen ni, heddiw ac yn y dyfodol.&#8221;<\/p>\n<p class=\"p1\">Anfonwyd llythyr yn galw unwaith eto am gyllid cynaliadwy ar gyfer T\u0177 Hafan a T\u0177 Gobaith wedi\u2019i lofnodi gan Irfon Rees ac Andy Goldsmith at y Prif Weinidog Vaughan Gething ac Eluned Morgan, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar Fehefin 5.<\/p>\n<p class=\"p1\">Cafodd Daniel, mab Jonanthan Bugg, o\u2019r Barri, ddiagnosis o ganser ddwy flynedd yn \u00f4l a fis Awst diwethaf, cafodd wybod ei fod yn angheuol. Bu farw yn Nh\u0177 Hafan ar Fawrth y cyntaf eleni yn 16 oed.<\/p>\n<p class=\"p1\">&#8220;Dydy marw ddim yn urddasol. Ond fe roddodd T\u0177 Hafan urddas i Daniel,&#8221; meddai tad Daniel, Jonathan, cyn-reolwr Maes Awyr Cymru Caerdydd. &#8220;Rhoddodd T\u0177 Hafan amser iddo gyda\u2019i deulu ac roedd modd i fy ngwraig Catherine a minnau fod yn fam a thad iddo, nid ei ofalwyr. Mae ysbytai yn gallu bod yn eithaf amhersonol &#8211; ond fe wnaeth T\u0177 Hafan sicrhau bod Daniel yn fe ei hun tan y diwedd.<\/p>\n<p class=\"p1\">&#8220;Fyddwn i ddim yn dymuno ein profiad ni ar unrhyw un. Ond i unrhyw un sydd yn gorfod mynd drwy ein profiad ni, byddwn i\u2019n dymuno iddynt gael gwasanaethau T\u0177 Hafan.&#8221;<\/p>\n<p class=\"p1\">Un o\u2019r plant sy\u2019n dibynnu ar ofal hosbis yn Nh\u0177 Gobaith yw Bedwyr Davies, sy\u2019n naw oed ac o Lanrwst.<\/p>\n<p class=\"p1\">Cafodd Bedwyr ddiagnosis o\u2019r cyflwr genetig syndrom Coffin-Siris, cyflwr sy\u2019n achosi anabledd dysgu sylweddol. Mae hefyd yn cael ei fwydo gan diwb, mae ganddo broblemau anadlu ac nid yw\u2019n gallu siarad.<\/p>\n<p class=\"p1\">Mae ei fam Nerys Davies yn dweud: &#8220;Mae bod yn rhieni i blentyn ag anghenion cymhleth yn anodd. Mae\u2019n newid bywyd mewn gwirionedd.<\/p>\n<p class=\"p1\">&#8220;Mae\u2019r dyddiau pan oeddwn i\u2019n gallu picio draw i\u2019r siop am laeth wedi hen fynd, gan fod angen trefnu tripiau. Caiff swper ei ruthro er mwyn i chi allu rhoi meddyginiaethau, gwylio drosto neu wneud ei ofal personol. Mae cwsg yn aflonydd ac mae\u2019r nosweithiau\u2019n hir ac yn frawychus pan fydd yn s\u00e2l.<\/p>\n<p class=\"p1\">&#8220;Mae gofal seibiant yn ein galluogi i wneud pethau heb lawer o rybudd! Mynd am dro yn y goedwig, i siopa, cwrdd \u00e2 theulu a ffrindiau am ginio.\u202fMae gofal seibiant yn rhoi cyfle i ni gael pryd poeth heb unrhyw darfu, noson dda o gwsg gan wybod bod staff T\u0177 Gobaith yno yn gofalu am eich plentyn a\u2019r cyfle i ailwefru eich batris gan nad ydych chi byth yn gwybod beth sy\u2019n mynd i\u2019ch wynebu.<\/p>\n<p class=\"p1\">&#8220;Pan mae ein plant yn s\u00e2l mae\u2019r gofal yr ydyn ni\u2019n ei roi gartref neu hyd yn oed yn yr ysbyty yn aruthrol. Mae angen seibiant arnon ni i sicrhau ein bod ni\u2019n gallu bod yno i\u2019n plant yn gorfforol ac yn feddyliol. Heb seibiant byddai llawer o deuluoedd yn wynebu argyfwng.<\/p>\n<p class=\"p1\">&#8220;Fy nymuniad i fyddai bod pob teulu sydd mewn sefyllfa debyg yn cael cefnogaeth eu hosbis plant, gan ei fod wir yn gwneud gwahaniaeth i bob un ohonon ni.&#8221;<\/p>\n<p class=\"p1\">Cymerodd yr arwyddlun i\u00e2r fach yr haf #CyrraeddPobPlentyn dair wythnos i\u2019w wneud ac mae\u2019n cynnwys 404 o ieir bach yr haf ffabrig lliw, pob un wedi\u2019i addurno\u2019n unigryw gan blant sy\u2019n cael gofal gan T\u0177 Hafan a T\u0177 Gobaith ar hyn o bryd.<\/p>\n<p class=\"p1\">Mae\u2019r 3,251 o\u2019r ieir bach yr haf sy\u2019n weddill, sy\u2019n cynrychioli\u2019r plant hynny yng Nghymru sydd \u00e2 chyflwr sy\u2019n byrhau bywyd nad yw T\u0177 Hafan a T\u0177 Gobaith yn gallu eu cyrraedd ar hyn o bryd, wedi\u2019i lliwio\u2019n ofalus \u00e2 phaent llwyd gan wirfoddolwyr o amrywiaeth o gwmn\u00efau sy\u2019n cefnogi\u2019r hosbisau plant.<\/p>\n<p class=\"p1\">Mae cynrychiolwyr y ddwy hosbis i blant gan gynnwys Irfon Rees, Andy Goldsmith a Jonathan a Catherine Bugg wedi arddangos i\u00e2r fach yr haf #CyrraeddPobPlentyn ar risiau\u2019r Senedd ym Mae Caerdydd o 10.30am tan 1.30pm.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Heddiw, ddydd Mawrth (18 Mehefin), dwy hosbis plant Cymru wedi datgelu i\u00e2r fach yr haf enfawr, wedi\u2019i chreu yn rhannol gan y plant y maen nhw\u2019n gofalu amdanynt, ar risiau\u2019r Senedd wrth iddyn nhw alw eto ar Lywodraeth Cymru i&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":340,"featured_media":2530,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[80,82,81,79],"tags":[],"class_list":["post-2508","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-announcements","category-featured","category-latest-news","category-news"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2508","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/340"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2508"}],"version-history":[{"count":7,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2508\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2534,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2508\/revisions\/2534"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2530"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2508"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2508"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2508"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}