{"id":2365,"date":"2024-04-19T09:47:01","date_gmt":"2024-04-19T09:47:01","guid":{"rendered":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/2024\/04\/19\/a-day-in-the-life-of-a-family-support-worker\/"},"modified":"2024-04-19T09:56:25","modified_gmt":"2024-04-19T09:56:25","slug":"diwrnod-ym-mywyd-gweithiwr-cymorth-i-deuluoedd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/2024\/04\/19\/diwrnod-ym-mywyd-gweithiwr-cymorth-i-deuluoedd\/","title":{"rendered":"Diwrnod ym mywyd&#8230; Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd"},"content":{"rendered":"<p>Mae Gweithwyr Cymorth i Deuluoedd yn rhan allweddol o\u2019n T\u00eem Llesiant ac Allgymorth i Deuluoedd. Yn ogystal \u00e2 gweithio yn yr hosbis, maen nhw\u2019n gweithio mewn cymunedau lleol yng Nghymru i sicrhau bod teuluoedd yn cael y cymorth arbenigol sydd ei angen arnyn nhw, lle bynnag y mae ei angen arnyn nhw.<\/p>\n<p>Fe wnaethon ni siarad ag Amy, Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd yn T\u0177 Hafan, i ddysgu mwy am ei r\u00f4l hanfodol.<\/p>\n<p>&#8220;Mae Gweithwyr Cymorth i Deuluoedd yn gweithio gyda theuluoedd i gefnogi eu llesiant emosiynol. Gallai hynny fod yn hirdymor, neu nes iddyn nhw ddechrau cael cwnsela,&#8221; mae Amy yn esbonio.<\/p>\n<p>Rydyn ni\u2019n gweithio unigol gyda theuluoedd ac mewn grwpiau, gan gynnal llawer o ddigwyddiadau yn yr hosbis ac mewn cymunedau lleol.<\/p>\n<p>&#8220;Mae\u2019r digwyddiadau yn amrywiol iawn. Gallan nhw ganolbwyntio\u2019n benodol ar famau, tadau neu frodyr a chwiorydd, neu gallan nhw fod ar gyfer teuluoedd cyfan. Mae gan bob aelod o\u2019r teulu anghenion cymorth gwahanol, felly rydyn ni\u2019n gweithio\u2019n galed i roi cymorth penodol i bawb.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-2366\" src=\"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/support-worker-3-300x225.webp\" alt=\"Amy, Emma and Dan\" width=\"300\" height=\"225\" \/><\/p>\n<p>&#8220;Mae fy nghydweithwyr Emily, Dan a Kelly-Jo a minnau yn gweithio gyda\u2019n gilydd i sicrhau bod pawb sy\u2019n manteisio ar wasanaethau T\u0177 Hafan yn cael gwasanaeth cyfartal.<\/p>\n<p>&#8220;Mae gwaith Emily a minnau yn y gymuned wedi\u2019i rannu\u2019n ddaearyddol fel y gallwn ni sicrhau bod pob ardal yn cael gwasanaeth cyfartal. Mae hyn yn bwysig iawn i\u2019n teuluoedd mewn cymunedau gwledig. Mae digwyddiadau T\u0177 Hafan yn cael eu hysgogi gan yr hyn y mae teuluoedd eisiau ei wneud.<\/p>\n<p>Rydyn ni\u2019n cynnal diwrnodau sba, boreau coffi a chyfleoedd i gwrdd am sgwrs mewn amrywiaeth o ardaloedd. Rydyn ni wedi sylwi bod rhai teuluoedd eisiau gwneud mwy o weithgareddau anturus, felly aeth criw o famau i daflu bwyelli\u2019n ddiweddar ac roedd yn lot o hwyl!<\/p>\n<p>Mae Amy\u2019n egluro: &#8220;Rwyf i wrth fy modd yn cael gr\u0175p mawr o bobl at ei gilydd. Mae\u2019n helpu pobl i gysylltu. Yn y digwyddiadau hyn, gall teuluoedd ddarganfod eu bod yn byw ond ychydig i lawr y ffordd oddi wrth ei gilydd, neu fod eu plant yn mynd i\u2019r un ysgol. Mae\u2019r digwyddiadau hyn yn helpu teuluoedd i wneud eu cysylltiadau eu hunain a dod o hyd i system gymorth yn agos at ble maen nhw\u2019n byw.<\/p>\n<p>Mae amser unigol gyda theuluoedd yn hanfodol hefyd. Mae siarad \u00e2 pherson rheolaidd a dibynadwy y maen nhw\u2019n gwybod ei fod yn deall eu profiadau yn gallu bod o gymorth mawr i lesiant y teulu.<\/p>\n<p>&#8220;Mae Kelly-Jo yn cynnig cefnogaeth i frodyr a chwiorydd yn bennaf, mae Dan yn cynnig cefnogaeth i dadau yn bennaf ac mae Emily yn cynnig cefnogaeth i famau a theuluoedd cyfan yn bennaf.&#8221;<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-2368\" src=\"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/04\/support-worker-218x300.webp\" alt=\"Amy and Kelly-Jo\" width=\"218\" height=\"300\" \/><\/p>\n<p>Mae ein Hybiau Cymunedol hefyd yn rhan fawr o\u2019r hyn yr ydyn ni\u2019n ei wneud. Maen nhw\u2019n mynd \u00e2 gwasanaethau T\u0177 Hafan i gymunedau lleol yng Nghymru fel y gallwn ni gyrraedd cymaint o deuluoedd \u00e2 phosibl.<\/p>\n<p>&#8220;Mae llawer yn digwydd yn y Canolfannau Cymunedol! R\u00f4l y Gweithwyr Cymorth i Deuluoedd yw sicrhau bod teuluoedd yn gallu cysylltu ag eraill a gwneud ffrindiau yn eu cymunedau lleol. Rydyn ni\u2019n gwneud hyn drwy sicrhau bod y teulu cyfan yn cael cymaint o hwyl \u00e2 phosibl, yn ogystal \u00e2 bod yn glust i wrando.&#8221;<\/p>\n<p>Mae ein T\u00eem Therap\u00efau Cyflenwol yn mynd i Hybiau Cymunedol i roi triniaethau ymlaciol i deuluoedd, fel tylino, ac mae crefftau a chwarae therapiwtig yn nodweddion pwysig y digwyddiadau cymunedol misol hyn.&#8221;<\/p>\n<p>\u201cMae cymorth profedigaeth a chreu atgofion yn rhan fawr o fy swydd i hefyd,&#8221; mae Amy\u2019n ychwanegu. &#8220;Pan ddaw plentyn atom ni ar gyfer gofal diwedd oes, rwy\u2019n helpu teuluoedd i greu atgofion gwerthfawr gyda\u2019u plentyn drwy weithgareddau fel gwneud castiau llaw, creu canfasau artistig gyda phrintiau llaw ac arbed cudynnau o wallt.<\/p>\n<p>\u201cMae fy nyddiau i wir yn amrywiol. Gallaf fod yn cynnal digwyddiad yn y bore ac, yr un diwrnod, efallai y bydd angen i mi helpu Ymarferydd Cymorth i Deuluoedd gyda chreu atgofion.<\/p>\n<p>&#8220;Rwyf i wrth fy modd \u00e2 phob agwedd ar fy ngwaith. Roeddwn i bob tro yn gwybod fy mod i eisiau helpu pobl a dechreuais i wirfoddoli gyda phlant ag anghenion cymhleth o oedran ifanc. Rwy\u2019n ddiolchgar iawn i weithio rhywle sy\u2019n teimlo fel fy lle i am byth.<\/p>\n<p>&#8220;Gallwn ni gael diwrnodau anodd iawn yn T\u0177 Hafan, ond mae yna gymaint mwy na thristwch.<\/p>\n<p>Mae pethau anhygoel yn digwydd yn T\u0177 Hafan. Nid dim ond lle ble mae plant yn dod i farw ydyw &#8211; mae\u2019n lle i wneud yr atgofion prydferthaf fel teulu. Rydyn ni\u2019n gwneud popeth o fewn ein gallu ni i wneud bywyd byr iawn yn fywyd hapus iawn.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Gweithwyr Cymorth i Deuluoedd yn rhan allweddol o\u2019n T\u00eem Llesiant ac Allgymorth i Deuluoedd. Yn ogystal \u00e2 gweithio yn yr hosbis, maen nhw\u2019n gweithio mewn cymunedau lleol yng Nghymru i sicrhau bod teuluoedd yn cael y cymorth arbenigol sydd&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":10,"featured_media":2370,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[26],"tags":[],"class_list":["post-2365","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cwtch"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2365","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/10"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2365"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2365\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2372,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2365\/revisions\/2372"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2370"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2365"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2365"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2365"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}