{"id":2158,"date":"2023-11-30T16:15:47","date_gmt":"2023-11-30T16:15:47","guid":{"rendered":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/?p=2158"},"modified":"2024-08-01T10:11:44","modified_gmt":"2024-08-01T10:11:44","slug":"thanks-to-you-weve-done-it","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/2023\/11\/30\/thanks-to-you-weve-done-it\/","title":{"rendered":"Diolch i chi, rydyn ni wedi llwyddo!"},"content":{"rendered":"<p><strong>Mae cefnogwyr hael T\u0177 Hafan ledled Cymru a thu hwnt wedi helpu&#8217;r elusen hosbis i blant i godi dros \u00a3500,000 mewn dim ond 60 awr!<\/strong><\/p>\n<p>Targed gwreiddiol ap\u00eal T\u0177 Hafan &#8220;Pan Ddaw Eich Byd i Stop. Ry\u2019n Ni Yno!&#8221; oedd codi \u00a3350,000. Fodd bynnag, cyflawnwyd hynny erbyn 3.15pm brynhawn Mawrth ac wrth i roddion barhau i gyrraedd yn ystod y saith awr olaf, y cyfanswm terfynol a godwyd am 10pm ar 28 Tachwedd oedd \u00a3523,847.<\/p>\n<p>Dywedodd Sara Morris, mam yr efeilliaid Alfi a Besi, a oedd wrth wraidd yr ap\u00eal hon: &#8220;Wyth mlynedd yn \u00f4l gwnaethom ni addewid i fachgen arbennig iawn y byddai pob penderfyniad y byddem ni\u2019n ei wneud mewn bywyd yn ei wneud yn falch.<\/p>\n<p>\u201cPan gysylltodd T\u0177 Hafan \u00e2 ni ychydig fisoedd yn \u00f4l a gofyn i ni fod yn deulu T\u0177 Hafan eleni, doedd e\u2019 ddim yn benderfyniad hawdd i&#8217;w wneud. I lawer mae wedi bod yn wyth mlynedd hir ers i Alfi farw ond i ni mae&#8217;n teimlo fel ddoe. Er ein bod wedi dod yn bell fydd y creithiau a&#8217;r boen byth yn diflannu i&#8217;n teulu ni. Mae colli plentyn yn boen sy&#8217;n annisgrifiadwy.<\/p>\n<p>\u201cGwnaethom ymgymryd \u00e2&#8217;r her hon oherwydd bod T\u0177 Hafan yn achubiaeth i ni ac roeddem am roi rhywbeth yn \u00f4l i geisio cefnogi cymaint o deuluoedd sydd yn yr un sefyllfa \u00e2 ni.&#8221;<\/p>\n<p>Gwnaeth Sara, ei g\u0175r, Jason a Besi eu merch 10 oed o Rydaman, serennu yn fideo ap\u00eal T\u0177 Hafan, gan adrodd hanes sut y cefnogodd T\u0177 Hafan nhw pan gafodd Alfi ddiagnosis o Syndrom Marfan Newyddenedigol, hyd at ei farwolaeth ar Fawrth y Cyntaf, 2015, yn ddim ond 22 mis oed, cefnogaeth sy&#8217;n parhau hyd heddiw.<\/p>\n<p>\u201cMae&#8217;r cwpwl o wythnosau diwethaf wedi bod yn her,&#8221; meddai Sara. &#8220;Rydyn ni wedi chwerthin ochr yn ochr \u00e2 llawer o ddagrau. Rydyn ni wedi tynnu ein hunain allan o&#8217;n sefyllfa gysurus yn llwyr ac wedi gwthio ein hunain trwy lawer o heriau.<\/p>\n<p>\u201cMae Besi-Jane wedi bod yn chwaer falch iawn ac rydym yn rhyfeddu at ei chryfder a&#8217;i chyflawniadau.<\/p>\n<p>\u201cMae&#8217;r canlyniad wedi bod yn syfrdanol. Mae dweud ein bod ni wedi cyrraedd dros hanner miliwn i T\u0177 Hafan yn hollol anhygoel!<\/p>\n<p>Ac mae hyn i gyd oherwydd ein teulu, ffrindiau, cymuned, busnesau ac ysgolion anhygoel ledled Cymru. Byddwn ni\u2019n ddiolchgar am byth ac rwy&#8217;n si\u0175r mai seren Alfi yw\u2019r un fwyaf disglair yn yr awyr ar \u00f4l neithiwr.&#8221;<\/p>\n<p>Dywedodd John Lowes, Pennaeth Codi Arian T\u0177 Hafan: &#8220;Rydyn ni wedi ein syfrdanu gan y gefnogaeth yr ydym wedi&#8217;i chael ledled Cymru a thu hwnt. Pobl yn cyfrannu, yn rhannu, yn ein helpu i godi ymwybyddiaeth o&#8217;n hap\u00eal, mae&#8217;r cyfan wedi bod yn wych.<\/p>\n<p>\u201cRydyn ni\u2019n ddiolchgar tu hwnt i bawb. Rydyn ni\u2019n gwybod bod hwn yn dal i fod yn gyfnod anodd iawn i lawer o bobl ar hyn o bryd ond mae cyhoedd Cymru wedi bod yno i ni eto.<\/p>\n<p>\u201cMae hefyd wedi bod yn fraint enfawr i ni gydweithio mor agos gyda&#8217;r teulu Morris anhygoel o Rydaman a rannodd eu stori mor ddewr \u00e2 ni. Mae Sara, Jason a Besi a&#8217;n t\u00eem cyfan wedi gweithio&#8217;n galed iawn i wneud cyfiawnder ag Alfi fel bod ei etifeddiaeth yn parhau.<\/p>\n<p>\u201cAc i unrhyw un sydd wedi colli&#8217;r ap\u00eal gyda\u2019r arian cyfatebol, ond a hoffai roi, peidiwch \u00e2 phoeni. Bydd eich rhodd yn dal i gael effaith enfawr. Bydd unrhyw rodd i T\u0177 Hafan ar unrhyw adeg o hyn ymlaen yn helpu plant sy&#8217;n ddifrifol wael yng Nghymru.&#8221;<\/p>\n<p>Cefnogwyd yr ap\u00eal gan Lysgenhadon T\u0177 Hafan, Leigh Halfpenny a Michael Sheen, a rhannodd y ddau stori&#8217;r teulu ar eu ffrydiau cyfryngau cymdeithasol. Ymhlith cefnogwyr enwog eraill T\u0177 Hafan a rannodd yr ymgyrch hon hefyd ar y cyfryngau cymdeithasol gyda&#8217;u dilynwyr mae&#8217;r dyfarnwr rygbi a&#8217;r ffermwr Nigel Owens, y cogydd Stephen Terry, yr actorion Matthew Rhys a Huw Davies, mewnwr y Dreigiau, Rhodri Williams, a chyn chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru a&#8217;r Gweilch, Shane Williams.<\/p>\n<p>Ar hyn o bryd mae T\u0177 Hafan yn darparu gofal a chymorth hanfodol i 352 o blant sydd \u00e2 chyflyrau sy\u2019n byrhau bywyd a&#8217;u teuluoedd yn ei hosbis yn Sili ac mewn cartrefi a chymunedau ledled de, canolbarth a gorllewin Cymru.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n costio \u00a35.6 miliwn y flwyddyn i T\u0177 Hafan ddarparu ei lefelau presennol o ofal a chymorth, a dangosodd adroddiad a gyhoeddwyd yn gynharach eleni fod y galw yn saethu i fyny am ofal lliniarol plant yng Nghymru gydag 1 o bob 172 o blant a anwyd yn y wlad angen y gwasanaethau a ddarperir gan T\u0177 Hafan a T\u0177 Gobaith ar ryw adeg yn eu bywydau.<\/p>\n<p>I gyfrannu ewch i: <a href=\"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/whenyourworldstops\">dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/whenyourworldstops<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae cefnogwyr hael T\u0177 Hafan ledled Cymru a thu hwnt wedi helpu&#8217;r elusen hosbis i blant i godi dros \u00a3500,000 mewn dim ond 60 awr! Targed gwreiddiol ap\u00eal T\u0177 Hafan &#8220;Pan Ddaw Eich Byd i Stop. Ry\u2019n Ni Yno!&#8221; oedd&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":2078,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[37,55],"tags":[],"class_list":["post-2158","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyhoeddiadau","category-newyddion-diweddaraf"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2158","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2158"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2158\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2159,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2158\/revisions\/2159"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2078"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2158"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2158"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2158"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}