{"id":2091,"date":"2023-11-16T12:01:32","date_gmt":"2023-11-16T12:01:32","guid":{"rendered":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/2023\/11\/16\/alfis-story-at-heart-of-of-bid-to-raise-350000-in-60-hours-4\/"},"modified":"2024-08-01T10:11:08","modified_gmt":"2024-08-01T10:11:08","slug":"alfis-story-at-heart-of-of-bid-to-raise-350000-in-60-hours-4","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/2023\/11\/16\/alfis-story-at-heart-of-of-bid-to-raise-350000-in-60-hours-4\/","title":{"rendered":"Stori Alfi wrth galon ymgais T\u0177 Hafan i godi \u00a3350,000 mewn dim ond 60 awr"},"content":{"rendered":"<p><strong>Mae Hosbis Plant T\u0177 Hafan yn paratoi i lansio ei hail ap\u00eal codi arian \u2018Pan Fydd Eich Byd yn Stopio&#8217; gyda&#8217;i tharged i godi \u00a3350,000 mewn dim ond 60 awr.<\/strong><\/p>\n<p>Bydd yr ap\u00eal, yn canolbwyntio ar stori Alfi Morris, a anwyd yn Rhydaman, yn mynd yn fyw am 10am ddydd Sul 26 Tachwedd a bydd yn parhau tan 10pm ddydd Mawrth 28 Tachwedd.<\/p>\n<p>Bydd yr holl roddion a wneir i T\u0177 Hafan yn ystod y cyfnod hwnnw yn cael ei cyllid cyfatebol sy\u2019n golygu y bydd un rhodd yn cael dwbl yr effaith.<\/p>\n<p>Dywedodd Lynne Phelps, Pennaeth Lles Teulu a Gwasanaethau Allgymorth T\u0177 \u00a0Hafan: &#8220;Rydyn ni&#8217;n gwybod cymaint mae byd teulu yn newid pan fydd plentyn yn cael diagnosis o gyflwr sy&#8217;n byrhau ei fywyd.<span class=\"Apple-converted-space\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p>\u201cMae&#8217;n newid eto pan fyddan nhw\u2019n sylweddoli bod yn rhaid iddyn nhw ystyried gofal diwedd oes ac eto pan fydd eu plentyn yn marw.<\/p>\n<p>\u201cMae T\u0177 Hafan yma i ddarparu cefnogaeth ddiddiwedd i deuluoedd o&#8217;r eiliad gyntaf y mae eu byd yn newid.<\/p>\n<p>\u201cAllwn ni ddim rhoi mwy o amser i&#8217;r plant hynny, ond gyda chymorth a haelioni ein cefnogwyr anhygoel hen a newydd, gall T\u0177 Hafan roi&#8217;r gefnogaeth sydd ei hangen ar blant a&#8217;u teuluoedd yng Nghymru i wneud bywyd byr yn fywyd llawn a, phan ddaw&#8217;r amser, darparu gofal profedigaeth parhaus.&#8221;<\/p>\n<p>Gwnaeth Sara a Jason Morris a&#8217;u merch 10 oed, Besi, golli eu mab a brawd annwyl ar Ddydd G\u0175yl Dewi 2015, ychydig cyn ail ben-blwydd Alfi. Maent wedi dewis rhannu eu stori nawr i helpu T\u0177 Hafan i barhau i gefnogi teuluoedd sydd angen y gwasanaethau y mae&#8217;n eu darparu mor daer.<\/p>\n<p>\u201cAr 1 Mai 2013, daeth Alfi Jay a Besi Jane i&#8217;r byd,&#8221; meddai Sara.<\/p>\n<p>\u201cRoedd ein bywyd yn berffaith yn yr eiliadau hynny ac roedd y blynyddoedd o driniaethau IUI ac IVF anodd i gael ein gwyrthiau gwerthfawr i gyd yn werth chweil.<\/p>\n<p>\u201cOnd wnaeth yr hapusrwydd ddim para\u2019n hir. O fewn awr i\u2019n babanod annwyl gyrraedd, roedd Alfi yn wael iawn a chafodd ei ruthro i&#8217;r uned fabanod.<\/p>\n<p>\u201cRoedd y misoedd nesaf yn niwlog.\u00a0Roedd Alfi wedi cael diagnosis o Syndrom Marfan Newyddenedigol ac roeddem yn gwybod nad oedd ei brognosis yn dda. Roedd bywyd gyda&#8217;r efeilliaid yn werthfawr ac fe wnaethon ni geisio gwneud cymaint o atgofion ag y gallem.&#8221;<\/p>\n<p>Argymhellwyd T\u0177 Hafan i Sara a Jason pan oedd Alfi a Besi yn 9 mis oed. Fe wnaethant ymweld \u00e2&#8217;n hosbis am eu harhosiad cyntaf a&#8217;u hunig arhosiad seibiant byr ychydig cyn Nadolig 2014, lle roedden nhw\u2019n gallu ymlacio ychydig fel teulu gan wybod y byddai anghenion meddygol Alfi yn cael gofal.<\/p>\n<p>\u201cYn T\u0177 Hafan, cefais i a Jason gyfle i dreulio amser o ansawdd gyda&#8217;r efeilliaid,&#8221; cofia Sara.<\/p>\n<p>\u201cAm y tro cyntaf, doedd dim angen i ni osod ein larymau, poeni am feddyginiaeth na phoeni am anghofio pacio holl offer meddygol Alfi. Cymerwyd y cyfrifoldeb oddi arnom.<\/p>\n<p>\u201cBydd y penwythnos hwnnw yn aros gyda ni am byth. Fe wnaethon ni chwarae yn y parc, nofio yn y pwll hydrotherapi, ymweld \u00e2 Si\u00f4n Corn a bwyta cinio Nadolig fel teulu. Fe wnaeth Alfi hyd yn oed fentro ar ei ben ei hun gyda&#8217;i ofalwr nyrsio un-i-un i weld Anna, Elsa, Olaf a Si\u00f4n Corn.<\/p>\n<p>\u201cO&#8217;r eiliad honno ymlaen, daeth T\u0177 Hafan yn rhan enfawr o&#8217;n bywydau.\u201d<\/p>\n<p>Bu farw Alfi yn heddychlon ym mreichiau ei dad ar 1 Mawrth 2015, pen-blwydd priodas Sarah a Jason.<\/p>\n<p>\u201cErs iddo farw, mae T\u0177 Hafan wedi bod yn gefnogaeth enfawr i ni. Rydyn ni\u2019n dal i gael cefnogaeth gan ein Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd, ac rydyn ni\u2019n gwybod bod T\u0177 Hafan yno i ni pryd bynnag a sut bynnag yr ydym ni eu hangen,&#8221; meddai Sara.<\/p>\n<p>\u201cRydyn ni\u2019n ymweld \u00e2 T\u0177 Hafan yn rheolaidd. Galla\u2019 i ddim dechrau disgrifio&#8217;r hyn y mae T\u0177 Hafan yn ei olygu i ni fel teulu, ond un peth rwy&#8217;n ei wybod yn sicr yw y byddaf yn ddiolchgar am byth am yr atgofion y maen nhw wedi caniat\u00e1u inni eu creu ac yr ydym yn dal i\u2019w creu hyd heddiw.&#8221;<\/p>\n<p>Meddai John Lowes, Pennaeth Codi Arian T\u0177 \u00a0Hafan:\u00a0\u201cMae hon yn ymgyrch codi arian hanfodol i ni, ac rydyn ni\u2019n hynod ddiolchgar i&#8217;r teulu Morris am eu dewrder a&#8217;u haelioni wrth rannu eu stori i&#8217;n helpu i godi cymaint o arian \u00e2 phosibl.<\/p>\n<p>\u201cI gymryd rhan, cofrestrwch i fod yn hyrwyddwr ap\u00eal nawr a rhannu gwybodaeth am yr ap\u00eal ar eich cyfryngau cymdeithasol a gyda ffrindiau, teulu, cydweithwyr a chymdogion fel y gallwn roi gwybod i gynifer o bobl \u00e2 phosibl ei fod yn digwydd.<\/p>\n<p>\u201cYn ail, fel unigolion neu fel gr\u0175p, codwch arian mewn unrhyw ffordd sy&#8217;n addas i chi.<\/p>\n<p>\u201cYn olaf, ac yn bwysicaf oll, rhowch i&#8217;r ap\u00eal hon ar-lein yn <a href=\"https:\/\/www.charityextra.com\/whenyourworldstops\">https:\/\/www.charityextra.com\/whenyourworldstops<\/a>\u00a0neu ffoniwch ein T\u00eem Cymorth Cefnogwyr ar 02920 532 255, rhwng 10am ddydd Sul Tachwedd 26 a 10pm Dydd Mawrth Tachwedd 28 i gyflwyno eich rhoddion \u2013 a byddwch yn gweld gwerth eich rhodd yn dyblu.&#8221;<\/p>\n<p>Dangosodd adroddiad a gyhoeddwyd gan Hosbisau Plant T\u0177 Hafan a T\u0177 Gobaith yn gynharach eleni y bydd gan 1 o bob 172 o blant a anwyd yng Nghymru gyflwr sy&#8217;n byrhau bywyd a bod y galw yn cynyddu\u2019n gyflym am wasanaethau y mae T\u0177 Hafan yn eu darparu sy&#8217;n rhad ac am ddim i&#8217;r rhai sydd eu hangen.<\/p>\n<p>Ar yr un pryd, mae&#8217;r argyfwng costau byw wedi taro T\u0177 Hafan yn galed wrth i\u2019r bil ynni blynyddol yn unig gynyddu o \u00a3100,000 i \u00a3400,000 y llynedd.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Hosbis Plant T\u0177 Hafan yn paratoi i lansio ei hail ap\u00eal codi arian \u2018Pan Fydd Eich Byd yn Stopio&#8217; gyda&#8217;i tharged i godi \u00a3350,000 mewn dim ond 60 awr. Bydd yr ap\u00eal, yn canolbwyntio ar stori Alfi Morris, a&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":340,"featured_media":2078,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[37,55],"tags":[],"class_list":["post-2091","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyhoeddiadau","category-newyddion-diweddaraf"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2091","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/340"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2091"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2091\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2095,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2091\/revisions\/2095"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2078"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2091"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2091"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2091"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}