{"id":1884,"date":"2023-10-09T13:59:47","date_gmt":"2023-10-09T13:59:47","guid":{"rendered":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/2023\/10\/09\/maxs-story\/"},"modified":"2023-10-13T14:59:07","modified_gmt":"2023-10-13T14:59:07","slug":"maxs-story","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/2023\/10\/09\/maxs-story\/","title":{"rendered":"Stori Max"},"content":{"rendered":"<p><strong>\u201cCafodd Max ei eni ar 17 Ionawr 2016,&#8221; meddai Martina Harding. &#8220;Roedd e&#8217;n berffaith ac yn frawd bach hyfryd i&#8217;n merch, Mila. Ond yn fuan iawn fe wnaethon ni sylwi bod pethau&#8217;n wahanol i Max.&#8221;<\/strong><\/p>\n<p><em>O fewn naw wythnos i enedigaeth eu mab, roedd Martina a&#8217;i g\u0175r, Glyn, wedi cael gwybod bod gan Max Atroffi Cyhyrol yr Asgwrn Cefn (SMA) math 1, cyflwr genetig prin sy&#8217;n golygu bod gan blentyn \u00e2&#8217;r diagnosis hwn hyd oes cyfartalog o ddwy flynedd neu lai.<\/em><\/p>\n<p><em>Bu farw Max yn heddychlon gartref gyda&#8217;i deulu yng Nghaer-went ar 16 Mai 2016 yn ddim ond pedwar mis oed.<\/em><\/p>\n<p>\u201cPan rydych chi&#8217;n cael y newyddion eich bod chi&#8217;n mynd i golli plentyn rydych chi yno ond dydych chi ddim yn gwybod beth i&#8217;w wneud,&#8221; meddai\u2019r tad, Glyn.<\/p>\n<p>\u201cMae fel eich bod chi mewn gwactod. Mae popeth yn digwydd o&#8217;ch cwmpas chi, ond mae&#8217;n fyd gwahanol i\u2019r un rydych chi ynddo.<\/p>\n<p>\u201cDydych chi ddim yn gwybod beth i&#8217;w wneud a&#8217;r gefnogaeth a gawsom gan T\u0177 Hafan oedd yr unig beth yr oeddwn i\u2019n ei chlywed bryd hynny.<\/p>\n<p>\u201cRoeddwn i wedi gwneud taith feicio elusennol i godi arian ar gyfer T\u0177 Hafan rai blynyddoedd cyn i mi ddefnyddio ei wasanaethau fy hun. Dydych chi byth yn breuddwydio mai chi fydd yn y sefyllfa honno. A dydych chi ddim yn dod i wybod pa mor bwysig yw\u2019r hyn y mae&#8217;n ei gynnig mewn gwirionedd nes bod ei angen arnoch chi&#8217;ch hun a&#8217;ch bod chi&#8217;n profi&#8217;r hyn y mae&#8217;n ei gynnig.<\/p>\n<p>\u201cRoedd angen help arnom ac fe wnaethon ni gydio yn yr hyn roedd T\u0177 Hafan yn ei gynnig gyda dwy law.<\/p>\n<p>\u201cGyda T\u0177 Hafan, maen nhw&#8217;n siarad \u00e2 chi\u2019n blaen. Maen nhw&#8217;n dweud wrthych chi na allan nhw wella&#8217;ch plentyn. Ond fe allan nhw eich helpu chi drwyddo.&#8221;<\/p>\n<p>\u201cMae T\u0177 Hafan yn cymryd cymaint o bwysau oddi arnoch chi,&#8221; meddai&#8217;r fam, Martina. \u201cMaen nhw&#8217;n helpu i sortio&#8217;r holl stwff o&#8217;ch cwmpas \u2013 ac fe wnaeth hyn olygu fy mod i\u2019n gallu treulio amser gyda Max, Glyn a Mila. Yr holl eiliadau gwerthfawr hynny y gwnaeth T\u0177 Hafan eu rhoi i ni. Roedden ni\u2019n gallu camu&#8217;n \u00f4l o&#8217;r pryderon hynny a phwysau bywyd bob dydd a chanolbwyntio arnom ni fel teulu.<\/p>\n<p>\u201cDydy e ddim yn amgylchedd nawddoglyd \u2013 mae T\u0177 Hafan yn glir gyda chi bod yr hyn sy&#8217;n digwydd, yn digwydd, dydyn nhw ddim yn osgoi pethau.<\/p>\n<p>\u201cMaen nhw\u2019n helpu i\u2019ch tywys drwy&#8217;r dyddiau hynny pan rydych chi ar eich isaf. Maen nhw&#8217;n dangos i chi ei bod hi&#8217;n iawn i grio. Mae&#8217;r gofal a&#8217;r cariad rydym wedi\u2019u cael gan T\u0177 Hafan, ac rydym yn dal i\u2019w cael ganddyn nhw, heb ei ail.<\/p>\n<p>\u201cFydden ni ddim fel rydyn ni heddiw oni bai am T\u0177 Hafan .\u201d<br \/>\nRoedd Mila yn ddwy a hanner pan gafodd Max ei eni. Ar \u00f4l ei ddiagnosis cafodd y teulu eu cyfeirio yn syth at T\u0177 Hafan.<\/p>\n<p>\u201cGyda diagnosis Max roedd y prognosis yn golygu nad oedden ni&#8217;n gwybod a fyddai hyd yn oed yn para&#8217;r daith ambiwlans i T\u0177 Hafan ,&#8221; meddai Glyn. \u201cFe lwyddodd i wneud hynny ac arhoson ni tua phythefnos a hanner yn yr hosbis. Fe gawson ni hyfforddiant ar sut i fwydo Max trwy diwb ac fe aethon ni ag ef allan gydag Adrian y nyrs.&#8221;<\/p>\n<p>\u201cFe ddaethon ni i adnabod y lle&#8217;n gyflym oherwydd doedd Max ddim yn dda,&#8221; meddai Martina. \u201cPe na bai T\u0177 Hafan ar gael, bydden ni wedi bod yn yr ysbyty neu ar ein pennau ein hunain yn y t\u0177.&#8221;<\/p>\n<p>\u201cMae pobl yn ymdopi pan mae dy blentyn di mor wael,&#8221; meddai Glyn. \u201cOnd y profiad o sut rydych chi&#8217;n ymdopi \u00e2 hyn, dyna lle mae T\u0177 Hafan yn helpu. Yn ystod salwch eich plentyn ac ar \u00f4l hynny. Dyna pam rydyn ni eisiau helpu nawr \u2013 rydyn ni eisiau rhoi cymaint yn \u00f4l.<\/p>\n<p>\u201cFe safodd T\u0177 Hafan wrth ein hymyl ni a&#8217;n tywys ni \u2013 dydyn nhw ddim yn delio gyda phobl yn marw yno yn unig. Mae&#8217;r staff yno mor wybodus am yr hyn i&#8217;w wneud i&#8217;r teulu cyfan. Mae&#8217;r gefnogaeth y mae T\u0177 Hafan yn ei rhoi yn amhrisiadwy.<\/p>\n<p>\u201cFe wnaethon ni atgofion yno fel teulu, yn yr amgylchedd hardd hwnnw, yn yr ystafell grefft, yn y gegin, ac er bod bywyd Max yn fyr, mae&#8217;r atgofion hynny&#8217;n para am byth.&#8221;<\/p>\n<p>\u201cA beth bynnag roeddem wedi ei wynebu\u2019r diwrnod hwnnw, roedd pryd o fwyd blasus ar y bwrdd i ni yn T\u0177 Hafan bob amser ,&#8221; meddai Martina. &#8220;Mae hynny mor bwysig.&#8221;<\/p>\n<p>\u201cGallwn ni fynd yn \u00f4l o hyd \u2013 i siarad \u00e2 phobl sy&#8217;n cofio am Max, y bachgen hoffus. Mae hi mor braf gallu mynd i rywle fel yna.&#8221;<\/p>\n<p>Yn ogystal \u00e2 rhoi hafan ddiogel a chefnogol i&#8217;r teulu yn y dyddiau cynnar iawn ar \u00f4l diagnosis Max, rhoddodd T\u0177 Hafan hyder sy&#8217;n newid bywyd i&#8217;r teulu y gallen nhw ofalu am Max eu hunain gartref.<\/p>\n<p>\u201cFe roddodd T\u0177 Hafan yr hyder yna i ni,&#8221; meddai Martina. \u201cGallem fynd adref a gofalu am Max ein hunain, gan wybod bod T\u0177 Hafan yno i ni ddydd a nos pe bai angen help neu sicrwydd arnom ni.<\/p>\n<p>\u201cFe ddaethon ni adref am ychydig wythnosau. Wedyn fe aethon ni n\u00f4l lawr i T\u0177 Hafan a threulio wythnos arall yno.<\/p>\n<p>\u201cYna cawson ni bythefnos gartref. Hyd yn oed ar y diwrnod y bu farw Max, yn fuan ar \u00f4l iddo farw roedd Pat a Kirsty yma i&#8217;n helpu drwy&#8217;r diwrnod hwnnw. Roedd yn rhaid i ni aros i feddyg ddod i gadarnhau&#8217;r farwolaeth. Weithiau, y pethau syml sy&#8217;n gwneud y mwyaf o wahaniaeth. Wrth i ni aros am y doctor rhoddodd Pat y tegell ymlaen a chwaraeodd Kirsty gyda Mila.&#8221;<\/p>\n<p>\u201cFe aethon ni \u00e2 chorff Max i T\u0177 Hafan ,&#8221; meddai Glyn. \u201cFe wnaethon nhw baratoi ei ystafell iddo ac yno roedden ni&#8217;n gallu ffarwelio ag ef. Fe ddarllenodd y t\u00eem straeon iddo gyda&#8217;r nos. Yna roedden nhw i gyd yno i&#8217;w weld am y tro olaf.<\/p>\n<p>\u201cMae staff T\u0177 Hafan yn ddiffuant ac yn onest. Maen nhw yno gyda chi ac rydyn ni wedi gwneud ffrindiau oes yno.&#8221;<\/p>\n<p>Bob blwyddyn mae T\u0177 Hafan yn cynnal dau wasanaeth coffa i rieni mewn profedigaeth, gwasanaeth gaeaf wrth olau cannwyll, a gwasanaeth coffa yn yr haf. Mae\u2019r teulu Harding yn cael cysur yn y gwasanaethau hyn ac maen nhw hefyd yn ymweld \u00e2&#8217;r hosbis a&#8217;i gardd goffa yn rheolaidd yn ogystal \u00e2 chefnogi gweithgareddau codi arian yr elusen.&#8221;<\/p>\n<p>\u201cRydyn ni&#8217;n mynd yn \u00f4l i T\u0177 Hafan yn rheolaidd i ddangos parch i Max,&#8221; meddai Martina. \u201cRydyn ni&#8217;n mynd i\u2019r gwasanaethau profedigaeth, rydyn ni&#8217;n mwynhau&#8217;r diwrnod hwyl blynyddol, ac unwaith y flwyddyn rydyn ni&#8217;n ceisio gwneud rhywbeth i godi arian ar gyfer T\u0177 Hafan hefyd.<\/p>\n<p>\u201cEleni, fe gymerais i ran yn her Mamau v Mynyddoedd. Rydyn ni&#8217;n dal i gerdded gyda&#8217;n gilydd nawr ac yn dal i fyny ac rydyn ni wedi gwneud ffrindiau oes. Mae rhai ohonon ni wedi colli ein plant, mae rhai o\u2019n plant gyda ni o hyd.<\/p>\n<p>\u201cRydyn ni i gyd yn gwybod am yr emosiynau rydyn ni&#8217;n mynd drwyddyn nhw. Byddai colli Max wedi bod yn daith llawer anoddach heb T\u0177 Hafan. Mae cael y gefnogaeth honno wrth eich ochr chi wir yn anhygoel.&#8221;<\/p>\n<p>\u201cYn anffodus bydd wastad teuluoedd sydd angen T\u0177 Hafan yn y dyfodol ac rydyn ni eisiau iddyn nhw gael y gefnogaeth honno,&#8221; meddai Glyn. \u201cMae T\u0177 Hafan yn hosbis \u2013 ond dydy hi ddim yn ymwneud \u00e2 marw yn unig, mae cymaint mwy rydych chi&#8217;n ei wneud ac mae T\u0177 Hafan yn ei roi i chi. Does neb ei heisiau yn eu bywydau \u2013 ond diolch byth ei bod yno.&#8221;<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-1885 size-full\" src=\"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2023\/10\/Glyn-and-Max-Harding-Ty-Hafan-pool-jpeg.webp\" alt=\"Glyn and Max Harding in Ty Hafan's pool\" width=\"404\" height=\"270\" srcset=\"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2023\/10\/Glyn-and-Max-Harding-Ty-Hafan-pool-jpeg.webp 404w, https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2023\/10\/Glyn-and-Max-Harding-Ty-Hafan-pool-jpeg-300x200.webp 300w\" sizes=\"(max-width: 404px) 100vw, 404px\" \/><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-1887 size-large\" src=\"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/10\/Mila-Martina-Glyn-and-Bow-Harding-1024x768.webp\" alt=\"Mila, Martina, Glyn and Bow Harding\" width=\"1024\" height=\"768\" \/><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>\u201cCafodd Max ei eni ar 17 Ionawr 2016,&#8221; meddai Martina Harding. &#8220;Roedd e&#8217;n berffaith ac yn frawd bach hyfryd i&#8217;n merch, Mila. Ond yn fuan iawn fe wnaethon ni sylwi bod pethau&#8217;n wahanol i Max.&#8221; O fewn naw wythnos i&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":340,"featured_media":1889,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[33],"tags":[],"class_list":["post-1884","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-straeon-teuluol"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1884","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/340"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1884"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1884\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1925,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1884\/revisions\/1925"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1889"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1884"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1884"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1884"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}