{"id":1806,"date":"2022-10-13T08:06:30","date_gmt":"2022-10-13T08:06:30","guid":{"rendered":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/2023\/09\/13\/thomas-story\/"},"modified":"2023-11-04T09:07:29","modified_gmt":"2023-11-04T09:07:29","slug":"thomas-story","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/2022\/10\/13\/thomas-story\/","title":{"rendered":"Stori Thomas"},"content":{"rendered":"<p>\u201cTan hydref 2017, roedd Thomas yn fachgen wyth oed arferol,&#8221; meddai ei dad James Meacham, o&#8217;r Coed Duon. \u201cRoedd yn ffit iawn, yn astudio karate, roedd yn ddeallus, yn ddarllenwr brwd o David Walliams i Harry Potter, yn geek Star Wars llwyr ac yn ddoniol iawn. Roedd yn plentyn arferol.<\/p>\n<p>\u201cPan ddechreuodd y flwyddyn ysgol newydd y mis Medi hwnnw, dechreuodd Sarah a fi sylwi ar rai newidiadau ynddo, newidiadau ymddygiadol a chorfforol oedd yn gwbl wahanol i&#8217;w gymeriad arferol. Yna, ym mis Ionawr 2018, cafodd Thomas ddau ffit mawr gartref. Ar \u00f4l cael ambiwlans \u00e2 golau glas i&#8217;r ysbyty a phrofion amrywiol, cawsom ddiagnosis o Adrenoleukodstrophy (ALD).<\/p>\n<p>\u201cAnhwylder genetig ar yr ymennydd ydyw sy&#8217;n brin iawn ac sydd ond yn effeithio ar fechgyn. Mae ALD yn dinistrio craidd allanol amddiffynnol y nerfau yn yr ymennydd, sy&#8217;n golygu bod yr holl resymu, swyddogaeth echddygol a phopeth y mae eich corff yn ei wneud yn cael ei golli yn y pen draw. O fewn chwe wythnos o gael y diagnosis roedd Thomas yn ddall a bu farw ar 2 Mehefin 2019, dim ond 18 mis yn ddiweddarach.<\/p>\n<p>\u201cPan fyddwch chi&#8217;n cael diagnosis terfynol i blentyn a oedd yn ffit ac yn iach cyn hynny, mae&#8217;n swnio fel ystrydeb ond yn llythrennol doedden ni ddim yn gwybod ble i droi. Yna cawsom wybod am hosbis plant T\u0177 Hafan. Roeddem ni&#8217;n ofnus i ddechrau. Roeddem ni&#8217;n meddwl mai lle mae plant s\u00e2l iawn yn mynd i farw oedd e. Allem ni ddim fod wedi bod yn fwy anghywir.<\/p>\n<p>\u201cT\u0177 Hafan yw&#8217;r lle mwyaf cadarnhaol, dyrchafol ac ysbrydoledig y byddwch chi&#8217;n ymweld ag ef erioed.<\/p>\n<p>\u201cO&#8217;n hymweliad cyntaf pan oedd Thomas yn gallu mwynhau&#8217;r ardal chwarae awyr agored i&#8217;n hymweliad diwethaf pan fu farw, roedd y gofal, y tosturi a&#8217;r\u00a0 gefnogaeth a gawsom ni i gyd gan T\u0177 Hafan o&#8217;r radd flaenaf. Fe wnaethon nhw hyd yn oed ddarllen iddo a rhoi Star Wars ymlaen yn ei ystafell ar \u00f4l iddo farw. Ni allaf ddweud mewn geiriau pa mor galonogol oedd hynny fel rhiant.<\/p>\n<p>&#8220;Rydyn ni&#8217;n dal i gael galwadau ac ymweliadau gan ein gweithiwr cymorth i deuluoedd, ac maen nhw wedi sefydlu sesiynau therapi chwarae yn yr ysgol i helpu ein merch naw oed Ella i ddelio \u00e2&#8217;i galar.<\/p>\n<p>\u201cMae fy ngwraig, Sarah, a minnau yn dal i gael gwahoddiadau i sesiynau therapi ategol yn yr hosbis, ac, i mi, mae cefnogaeth gr\u0175p y tadau yn unigryw ac yn amhrisiadwy. Yn aml gall edrych fel tynnu coes ond mae&#8217;n lle diogel i dadau sydd yn yr un sefyllfa ofnadwy i siarad yn rhydd ac yn eofn.<\/p>\n<p>\u201cPryd bynnag roedd Thomas yn Nh\u0177 Hafan roeddem bob amser yn teimlo y gallem ni ymlacio fel teulu a rhoi amser a sylw mawr ei angen i Ella. Rwy&#8217;n credu y byddai pob rhiant T\u0177 Hafan yn dweud bod yr hosbis wedi chwarae rhan gadarnhaol enfawr yn eu bywydau.<\/p>\n<p>\u201cDwi wir ddim yn gwybod lle fydden ni heb T\u0177 Hafan.&#8221;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>\u201cTan hydref 2017, roedd Thomas yn fachgen wyth oed arferol,&#8221; meddai ei dad James Meacham, o&#8217;r Coed Duon. \u201cRoedd yn ffit iawn, yn astudio karate, roedd yn ddeallus, yn ddarllenwr brwd o David Walliams i Harry Potter, yn geek Star&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":1807,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[33],"tags":[],"class_list":["post-1806","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-straeon-teuluol"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1806","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1806"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1806\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2009,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1806\/revisions\/2009"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1807"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1806"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1806"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1806"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}