{"id":1618,"date":"2023-08-10T08:53:17","date_gmt":"2023-08-10T08:53:17","guid":{"rendered":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/2023\/08\/10\/ty-hafan-and-principality-join-forces-for-a-spooktacular-fun-run-2\/"},"modified":"2023-09-17T19:12:38","modified_gmt":"2023-09-17T19:12:38","slug":"ty-hafan-and-principality-join-forces-for-a-spooktacular-fun-run-2","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/2023\/08\/10\/ty-hafan-and-principality-join-forces-for-a-spooktacular-fun-run-2\/","title":{"rendered":"T\u0177 Hafan a Principality yn ymuno \u00e2\u2019i gilydd ar gyfer Rasys Hwyl Bwganllyd"},"content":{"rendered":"<p><strong>Mae rasys hwyl elusennol gyda gwahaniaeth yn dod i dde Cymru ym mis Hydref. Bydd cyfres o Rasys Tywyll elusennol bwganllyd yn cael eu trefnu gan Hosbis Plant T\u0177 Hafan, sy\u2019n rhoi gofal a chymorth arbenigol i blant sydd \u00e2 chyflyrau sy\u2019n byrhau bywyd a\u2019u teuluoedd.<\/strong><\/p>\n<p>Mae\u2019r digwyddiadau cael eu noddi gan\u00a0<a href=\"https:\/\/www.principality.co.uk\/about-us\/our-community\/charity-partnerships\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Gymdeithas Adeiladu Principality<\/a> a ddewisodd T\u0177 Hafan i fod yn un o\u2019u partneriaid elusennol ochr yn ochr \u00e2 Hosbis Plant T\u0177 Gobaith sy\u2019n gweithredu yn y gogledd. Mae Principality wedi addo rhoi arian cyfatebol i\u2019r elusen ar gyfer yr holl ddigwyddiadau hyd at gyfanswm o \u00a350,000.<\/p>\n<p>Bydd y rasys yn cael eu cynnal yn hwyr yn y prynhawn mewn 4 gwahanol leoliad, gan ddechrau yn <a href=\"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/events\/barrydarkrun\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Ynys y Barri ar 13 Hydref<\/a>, <a href=\"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/events\/swansea-bay-dark-run\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Bae Abertawe ar 14 Hydref<\/a>, <a href=\"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/events\/caldicot-castle-dark-run\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Castell Cil-y-coed ar 21 Hydref<\/a> a&#8217;r digwyddiad olaf yn cael ei gynnal yng <a href=\"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/events\/cyfarthfa-castle-dark-run\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Nghastell Cyfarthfa ar 28 Hydref<\/a>.<\/p>\n<p>Bydd y rasys cwbl hygyrch yn amrywio rhwng 2.5km a 3.5km, sy\u2019n golygu y gall pawb gymryd rhan, ac wrth gwrs, rydyn ni\u2019n annog gwisgoedd ffansi. Gallwch archebu lle nawr am \u00a310 i oedolion a \u00a35 i blant.<\/p>\n<p>Dywedodd James Davies-Hale, Pennaeth Codi Arian T\u0177 Hafan: &#8220;Rydyn ni mor gyffrous i lansio ein digwyddiadau codi arian Rasys Tywyll newydd dros yr hydref. Mae\u2019r rasys hwyl hyn wedi\u2019u cynllunio i\u2019r teulu cyfan wisgo gwisg ffansi, dod at ei gilydd a chael noson wych mewn lleoliadau anhygoel o amgylch de Cymru. A thrwy gydol yr amser byddwch chi\u2019n helpu i godi arian hanfodol i gefnogi gwaith T\u0177 Hafan gyda phlant \u00e2 chyflyrau sy\u2019n byrhau bywyd a\u2019u teuluoedd sy\u2019n byw yn ardaloedd pob Ras Dywyll, a thu hwnt.<\/p>\n<p>&#8220;Mae addewid y Principality i roi arian cyfatebol at yr hyn y byddwn ni\u2019n ei godi hyd at \u00a350,000 ar gyfer y pedair ras hyn yn wych, rydyn ni\u2019n ddiolchgar iawn am eu cefnogaeth barhaus. Rwy\u2019n gobeithio y bydd hyn yn gymhelliant enfawr i\u2019n cefnogwyr &#8211; hirsefydlog a newydd \u2013 i wisgo gwisgo ffansi, a chodi cymaint o arian ag y gallan nhw i ni oherwydd, diolch i\u2019n ffrindiau yn Principality, bydd beth bynnag sy\u2019n cael ei godi ganddyn nhw\u2019n cael ei ddyblu. Pwy na fyddai wrth eu bodd \u00e2 hynny?&#8221;<\/p>\n<p>Dywedodd Tony Smith, Prif Swyddog Llywodraethu Cymdeithas Adeiladu Principality: &#8220;Rydyn ni\u2019n falch iawn o gefnogi t\u00eem T\u0177 Hafan wrth iddyn nhw greu\u2019r digwyddiadau cyffrous hyn. Rydyn ni\u2019n gwybod bod yr awyrgylch yn mynd i fod yn anhygoel, ac fel arfer bydd teimlad teuluol gwych i\u2019r dathliadau. Mae\u2019r cyd-destun ariannol presennol yn golygu bod rhoddion yn bwysicach nag erioed i gynnal y gwasanaethau hanfodol y mae T\u0177 Hafan yn eu darparu ar gyfer y plant a\u2019r teuluoedd y maen nhw\u2019n eu cefnogi, ac rydyn yn falch o roi arian cyfatebol ar gyfer pob rhodd yn y digwyddiadau hyn ac rydyn ni\u2019n edrych ymlaen at gymryd rhan.&#8221;<\/p>\n<p>I gofrestru ewch i: <a href=\"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/darkrun\/\">dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/darkrun\/<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae rasys hwyl elusennol gyda gwahaniaeth yn dod i dde Cymru ym mis Hydref. Bydd cyfres o Rasys Tywyll elusennol bwganllyd yn cael eu trefnu gan Hosbis Plant T\u0177 Hafan, sy\u2019n rhoi gofal a chymorth arbenigol i blant sydd \u00e2&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":340,"featured_media":1617,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[37,31],"tags":[],"class_list":["post-1618","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyhoeddiadau","category-dan-sylw"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1618","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/340"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1618"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1618\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1835,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1618\/revisions\/1835"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1617"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1618"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1618"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1618"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}