{"id":1608,"date":"2023-08-08T12:46:47","date_gmt":"2023-08-08T12:46:47","guid":{"rendered":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/2023\/08\/08\/thousands-take-part-as-sun-shines-on-abp-barry-island-10k-2\/"},"modified":"2023-09-17T18:56:38","modified_gmt":"2023-09-17T18:56:38","slug":"thousands-take-part-as-sun-shines-on-abp-barry-island-10k-2","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/2023\/08\/08\/thousands-take-part-as-sun-shines-on-abp-barry-island-10k-2\/","title":{"rendered":"Miloedd yn cymryd rhan wrth i\u2019r haul ddisgleirio ar Ras 10K ABP Ynys y Barri"},"content":{"rendered":"<p>Daeth miloedd o redwyr i Ynys y Barri ddydd Sul ar gyfer Ras 10K ABP Ynys y Barri 2023, wrth i\u2019r tywydd ansefydlog yn ddiweddar glirio gan adael awyr las a heulwen.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-1609 size-large\" src=\"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/ABP-Barry-Island-10K-group-of-three-running-1024x738.webp\" alt=\"\" width=\"1024\" height=\"738\" \/><\/p>\n<p>Aeth y ras 10K \u00e2 rhedwyr ar daith o amgylch golygfeydd y dref gydag uchafbwyntiau yn cynnwys Bae Whitmore, Parc Romilly, y Knap a Watch House Bay. Roedd dros 3,200 o redwyr wedi cofrestru i gymryd rhan yn y rasys 10K a\u2019r rasys iau, a Lily Partridge, Shaun Antell a Ron Price oedd yn fuddugol yn y ras elitaidd.<\/p>\n<p>Gwnaeth Lily Partridge gipio teitl y menywod yn hyderus gyda record cwrs newydd o 34:32. Hon oedd ail fuddugoliaeth yr haf i\u2019r aelod o\u2019r Birchfield Harriers, yn dilyn buddugoliaeth yn ras 10K Ogi Porthcawl fis diwethaf:<\/p>\n<p>&#8220;Rwy\u2019n hoffi dod i Gymru i rasio ac roedd yn wych cael buddugoliaeth arall. Roedd y cwrs yn anodd. Cefais fy rhybuddio ei fod yn fryniog, ond allwch chi byth bod yn si\u0175r. Roedd yn llwybr hyfryd. Dydw i ddim wedi bod i\u2019r Barri o\u2019r blaen ond mae\u2019n lleoliad gwych ac yn braf bod wrth y m\u00f4r. Roedd llwyth o bobl allan ac o gwmpas y cwrs felly roedd awyrgylch dda iawn.&#8221;<\/p>\n<p>Enillydd 2022, Olivia Tsim sy\u2019n hanu o Bontypridd oedd yn ail ar 37:18, gyda\u2019r athletwr AC o Lanfair-ym-Muallt a\u2019r Cyffiniau, Donna Morris ychydig ar ei h\u00f4l hi ar 37:42.<\/p>\n<p>Yn ras y dynion Shaun Antell, a ddaeth yn ail yn 10K Ogi Porthcawl yn ddiweddar, oedd yn fuddugol. Croesodd yr athletwr o Bideford AC y llinell ar 30:46, cyn Dan Hamilton sy\u2019n hanu o Bontypridd (30:52) ac enillydd 2022 ras 10K ABP Ynys y Barri 2022, Adam Bowden (31:03).<\/p>\n<p>&#8220;Rwy\u2019n gweithio fel postmon ac roeddwn i allan yn y glaw ddoe, felly roedd croeso i\u2019r heulwen &#8211; ond roedd y gwynt heddiw yn anodd. Doeddwn i byth yn teimlo fel ei fod y tu \u00f4l i mi, felly roeddwn i\u2019n ei chael hi\u2019n anodd dod o hyd i rythm. Roedd gennym ni gr\u0175p da ar y dechrau, aeth Dan Hamilton amdani, felly roedd yn rhaid i mi geisio aros gydag ef. Roedd e\u2019n gweithio\u2019n galed ac yn gosod y cyflymder, ond llwyddais yn y pen draw i gael bwlch ac roedd hwnnw\u2019n ddigon i ennill.<\/p>\n<p>&#8220;Mae\u2019r dorf wir yn fy annog i. Rwyf i bob amser wedi bod eisiau rhedeg ras 10K ABP Ynys y Barri, felly roedd yn wych dod i rasio o\u2019r diwedd. Byddaf i \u2018n\u00f4l yng Nghymru ar gyfer ras CDF 10K fis Medi&#8221;.<\/p>\n<p>Ron Price, sy\u2019n cymryd rhan yn rheolaidd yn rasys Run 4 Wales, aeth \u00e2\u2019r teitl cadair olwyn mewn amser o 47:24.<\/p>\n<p>Cafodd y digwyddiad ei gefnogi unwaith eto gan y prif noddwr Associated British Ports (ABP) gyda hosbis plant T\u0177 Hafan yn brif elusen. Roedd llawer o\u2019r rhedwyr 10K, gan gynnwys Ross McCabe, a gollodd ei frawd iau Finn i diwmor ar yr ymennydd yn 2018, yn codi arian i gefnogi\u2019u gwaith i roi gofal a chysur i blant \u00e2 chyflyrau sy\u2019n byrhau bywyd a\u2019u teuluoedd ledled Cymru.<\/p>\n<p>Roedd ABP yn falch iawn o roi rhodd i rieni Finn, Jo a Lee McCabe, a ddechreuodd y ras yn swyddogol ac a wnaeth hefyd ddal y t\u00e2p ar y diwedd, fel arwydd o\u2019u cefnogaeth barhaus i D\u0177 Hafan. Bydd y cwpl o\u2019r Barri, sydd i\u2019w gweld yn y llun isod gyda Jenna Lewis, eu mab Ross McCabe, a Helen Thomas o ABP, yn mwynhau noson yng Ngwesty\u2019r St Brides Spa yn Sir Benfro trwy garedigrwydd ABP i ddiolch am eu holl gefnogaeth a\u2019u cymorth i godi proffil yr elusen yn y cyfnod cyn penwythnos y ras.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-1603 size-large\" src=\"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Jenna-Lewis-Ross-McCabe-Helen-Thomas-Jo-and-Lee-McCabe-1024x683.webp\" alt=\"\" width=\"1024\" height=\"683\" \/><\/p>\n<p><strong>Dywedodd Helen Thomas, Pennaeth Eiddo ar gyfer Phorthladdoedd M\u00f4r Cymru a Byrion ABP:<\/strong> &#8220;Mae ABP yn falch iawn o fod yn gysylltiedig \u00e2 digwyddiad mor gadarnhaol i Ynys y Barri, sy\u2019n chwarae rhan bwysig wrth gefnogi gwaith anhygoel hosbis plant T\u0177 Hafan. Roedd y niferoedd a ddaeth eleni yn wych, llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran, a diolch yn fawr iawn i bawb a wirfoddolodd eu hamser i helpu i wneud iddo ddigwydd.&#8221;<\/p>\n<p><strong>Dywedodd Jenna Lewis, Cyfarwyddwr Cynhyrchu Incwm T\u0177 Hafan:<\/strong> &#8220;Mae ras 10K ABP Ynys y Barri eleni wedi bod yn llwyddiant ysgubol i Hosbis Plant T\u0177 Hafan a hoffwn i ddiolch i bawb yn Y Barri a thu hwnt sydd wedi cefnogi\u2019r digwyddiad hwn ym mhob ffordd.<\/p>\n<p>&#8220;Mae\u2019n rhaid s\u00f4n yn arbennig am Jo a Lee McCabe sydd wedi rhannu mor ddewr sut mae T\u0177 Hafan wedi bod yno i\u2019r teulu cyfan ers i\u2019w mab ieuengaf, Finn, gael diagnosis o diwmor ar yr ymennydd nad oedd modd ei drin yn 2017, a bu farw yn ein hosbis yn Sili lai na 12 mis yn ddiweddarach.<\/p>\n<p>&#8220;Diolch yn fawr hefyd i frawd mawr Finn, Ross McCabe, a gefnogodd Jo a Lee nid yn unig wrth wneud y fideo hyrwyddo ar gyfer y digwyddiad hwn, ond sydd hefyd newydd orffen y ras i T\u0177 Hafan am y trydydd tro. Mae dros 100 o bobl wedi rhedeg dros T\u0177 Hafan yn y digwyddiad eleni. Hoffem ni ddweud diolch yn fawr iawn a da iawn i chi gyd.<\/p>\n<p>&#8220;Yn olaf, hoffwn i ddweud diolch yn fawr iawn i\u2019n cydweithwyr yn Run4Wales sydd wedi\u2019n cefnogi ni yn ystod ein pum mlynedd fel prif bartner elusennol ar gyfer y digwyddiad hwn ac i noddwyr Associated British Ports.&#8221;<\/p>\n<p>Cafodd y digwyddiad ei drefnu gan Run 4 Wales (R4W), y t\u00eem y tu \u00f4l i Hanner Marathon Principality Caerdydd. Hwn oedd y pedwerydd o bum digwyddiad 10K a gafodd ei drefnu gan R4W yn 2023, gyda ras CDF 10K ar y calendr nesaf ac yn dychwelyd i brifddinas Cymru ddydd Sul 3 Medi.<\/p>\n<p><strong>Roedd Prif Weithredwr R4W, Matt Newman, wrth ei fodd gyda llwyddiant y ras:<\/strong><\/p>\n<p>\u201cGan fy mod i wedi fy ngeni a fy magu yn y Barri, mae hi bob amser yn arbennig gweld miloedd o redwyr yn dod i\u2019r dref ar gyfer ras 10K ABP Ynys y Barri. Mae\u2019r gefnogaeth heddiw wedi bod yn hollol wych felly mae hi wedi bod yn benwythnos pleserus iawn. Diolch i ABP am eu cefnogaeth barhaus fel Noddwr y Teitl, yn ogystal \u00e2\u2019r holl bartneriaid a rhanddeiliaid eraill sy\u2019n helpu i ddod \u00e2\u2019r digwyddiad yn fyw gan gynnwys T\u0177 Hafan, Brecon Carreg, HIGH5, Ford Pen-y-bont ar Ogwr a Chyngor Bro Morgannwg&#8221;.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-1612 size-large\" src=\"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/ABP-Barry-Island-10K-Paul-1024x789.webp\" alt=\"\" width=\"1024\" height=\"789\" \/><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-1605 size-large\" src=\"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Barry-Island-10K-group-shot-1024x683.webp\" alt=\"ABP Barry Island 10K group shot\" width=\"1024\" height=\"683\" \/><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Daeth miloedd o redwyr i Ynys y Barri ddydd Sul ar gyfer Ras 10K ABP Ynys y Barri 2023, wrth i\u2019r tywydd ansefydlog yn ddiweddar glirio gan adael awyr las a heulwen. Aeth y ras 10K \u00e2 rhedwyr ar daith&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":340,"featured_media":1607,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[37,31],"tags":[],"class_list":["post-1608","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyhoeddiadau","category-dan-sylw"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1608","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/340"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1608"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1608\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1832,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1608\/revisions\/1832"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1607"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1608"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1608"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1608"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}