{"id":1584,"date":"2023-08-07T11:07:13","date_gmt":"2023-08-07T11:07:13","guid":{"rendered":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/2023\/08\/07\/actor-huws-spanish-pilgrimage-for-ty-hafan-2\/"},"modified":"2023-11-06T11:09:41","modified_gmt":"2023-11-06T11:09:41","slug":"actor-huws-spanish-pilgrimage-for-ty-hafan-2","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/2023\/08\/07\/actor-huws-spanish-pilgrimage-for-ty-hafan-2\/","title":{"rendered":"Pererindod yr actor Huw Davies i Sbaen dros T\u0177 Hafan\u00a0"},"content":{"rendered":"<p><strong>Mae\u2019r actor adnabyddus o Gymru, Huw Davies yn paratoi i gerdded bron i 500 milltir ar draws gogledd Sbaen yn ddiweddarach y mis hwn er cof am ei nai a thad i un, Rhys Tom, a fu farw\u2019n annisgwyl yn gynharach eleni yn 31 oed.\u00a0<\/strong><\/p>\n<p>Nod Huw, sydd hefyd yn cael ei adnabod dan ei enw llwyfan Ifan Huw Dafydd, yw codi \u00a310,000 ar gyfer dwy elusen Gymreig; Hosbis Plant T\u0177 Hafan a <a href=\"https:\/\/jaclewisfoundation.co.uk\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Sefydliad Jac Lewis<\/a>, sy\u2019n hybu iechyd meddwl da, yn codi ymwybyddiaeth o hunanladdiad ac yn cefnogi perthnasau a ffrindiau mewn profedigaeth.<\/p>\n<p>Bu farw Rhys Tom, neu &#8216;Twm&#8217; fel yr oedd yn cael ei adnabod gan ei deulu a\u2019i ffrindiau, o Landysul, ar 28 Mawrth, bedair wythnos yn unig cyn yr oedd i fod i redeg Marathon Llundain ar gyfer T\u0177 Hafan er cof am un o&#8217;i ffrindiau o ddyddiau ei blentyndod, a gafodd ei gefnogi gan yr elusen.<\/p>\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/www.imdb.com\/name\/nm0196704\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Huw, 69 oed, o Gaerdydd, y mae ei waith actio\u2019n cynnwys Y Golau,<\/a> <i>The Crown,<\/i> Sam T\u00e2n, <i>Gavin and Stacey <\/i>a <i>Pobl y Cwm,<\/i> nawr yn paratoi i ymgymryd \u00e2 phererindod Camino de Frances, taith 475 milltir \/ 764km ar draws y Pyreneau, gwastadeddau a chefn gwlad agored o St Jean-Pied-De-Port yn ne-orllewin Ffrainc i Santiago de Compostela yng ngogledd-orllewin Sbaen.<\/p>\n<p>Meddai Huw: \u201c<a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=ZRvA6T7SwXg\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Roedd fy nai Rhys Tom, yr oedd pawb yn ei alw&#8217;n Twm, yn mynd i redeg Marathon Llundain eleni.<\/a> Roedd wedi addo codi arian ar gyfer T\u0177 Hafan, yr hosbis i blant, er cof am ei ffrind ysgol.<\/p>\n<p>\u201cWnaeth Twm byth redeg y marathon.<\/p>\n<p>\u201cAr 28 Mawrth 2023 collodd ein teulu un o&#8217;i gymeriadau lliwgar. Mab, brawd, ewythr, darpar \u0175r a thad i Celyn fach. Roedd yn chwaraewr rygbi, yn bencampwr bocsio dros Gymru, yn rhedwr marathon. Roedd awr yn ei gwmni yn eich bywiogi &#8211; y w\u00ean, y direidi, y tynnu coes. Y w\u00ean yna a\u2019r fflach o ddrygioni yn ei lygad &#8211; fe fyddan nhw\u2019n aros gyda fi am oes.<\/p>\n<p>\u201cYn 31 oed, roedd Twm yn llawer rhy ifanc ac yn rhy werthfawr o lawer i&#8217;n gadael ni.<\/p>\n<p>\u201cYn 69 oed, mae fy nyddiau rhedeg i y tu \u00f4l i mi, ond rwy&#8217;n bwriadu gwneud yn si\u0175r bod addewid Twm i T\u0177 Hafan yn cael ei gadw. Fis Awst a mis Medi byddaf yn cerdded Camino Frances ar draws Gogledd Sbaen i Santiago de Compostela &#8211; 764 kms.<\/p>\n<p>\u201cRwy&#8217;n gobeithio codi ymwybyddiaeth ac arian i elusen arall. Mae Sefydliad Jac Lewis yn helpu teuluoedd sydd wedi dioddef profedigaeth yn sgil hunanladdiad.<\/p>\n<p>\u201cCeredigion sydd \u00e2&#8217;r gyfradd hunanladdiad uchaf yn y DU &#8211; 20.1 ar gyfer pob 100,000 o bobl, o gymharu \u00e2 10.1!<\/p>\n<p>\u201cHelpwch fi i wireddu addewid Twm drwy fy noddi i. Bydd pob ceiniog yn helpu plant a&#8217;u rhieni ar adeg hynod o drist. Diolch.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Shelley Kirkham, Uwch Swyddog Gweithredol Codi Arian T\u0177 Hafan: \u201cRydyn ni&#8217;n ddiolchgar dros ben i Huw am ymgymryd \u00e2&#8217;r sialens enfawr hon i ni a Sefydliad Jac Lewis. Does dim llawer o arian gan neb i&#8217;w sbario y dyddiau hyn, ond rwy&#8217;n gwybod y byddwn yn gwerthfawrogi beth bynnag y gallwch ei fforddio. Dymunwn yn dda i Huw ar gyfer ei daith ac edrychwn ymlaen at ei ddilyn ar y cyfryngau cymdeithasol.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Anthony Rees, Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Sefydliad Jac Lewis: \u201cMae Sefydliad Jac Lewis yn ddiolchgar iawn i Huw am ddewis yr elusen ar gyfer yr her enfawr hon, fydd o fudd i gymaint o bobl sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2&#8217;r ddwy elusen. Roeddwn i&#8217;n adnabod Rhys Tom yn bersonol pan oedd yn ymgymryd \u00e2&#8217;i Brentisiaeth Gwaith Coed ar y Cyd \u00e2 CCTAL flynyddoedd lawer yn \u00f4l. Pob lwc Huw a diolch yn fawr am dy ymdrech a&#8217;r cyfraniad i&#8217;r elusennau.&#8221;<\/p>\n<p>Hyd yn hyn mae Huw wedi codi mwy na \u00a35,000 o&#8217;i darged o \u00a310,000. I gyfrannu ewch i: <a href=\"https:\/\/www.peoplesfundraising.com\/fundraising\/twm\">https:\/\/www.peoplesfundraising.com\/fundraising\/twm<\/a><\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-1585 size-large\" src=\"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Huw-Davies-training-walk-with-QR-code-1024x576.webp\" alt=\"Huw Davies on a training walk holds up a QR code \" width=\"1024\" height=\"576\" \/><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019r actor adnabyddus o Gymru, Huw Davies yn paratoi i gerdded bron i 500 milltir ar draws gogledd Sbaen yn ddiweddarach y mis hwn er cof am ei nai a thad i un, Rhys Tom, a fu farw\u2019n annisgwyl yn&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":340,"featured_media":1587,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[37,31,55],"tags":[],"class_list":["post-1584","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyhoeddiadau","category-dan-sylw","category-newyddion-diweddaraf"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1584","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/340"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1584"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1584\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2055,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1584\/revisions\/2055"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1587"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1584"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1584"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1584"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}