{"id":1519,"date":"2023-07-18T12:55:59","date_gmt":"2023-07-18T12:55:59","guid":{"rendered":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/2023\/07\/18\/toms-story\/"},"modified":"2023-11-06T18:58:58","modified_gmt":"2023-11-06T18:58:58","slug":"toms-story","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/2023\/07\/18\/toms-story\/","title":{"rendered":"Stori Tom"},"content":{"rendered":"<p><strong>Mae Tom Martin, 29 oed, yn byw yng Nghaerdydd ac fe gafodd ei gyfeirio at T\u0177 Hafan am y tro cyntaf yn 2002 pan oedd yn naw oed. Yn gefnogwr brwd o glwb p\u00eal-droed Dinas Caerdydd, yn aelod o garfan Boccia Cenedlaethol Cymru ac yn Bencampwr Cenedlaethol Cymru BC4, mae Tom yn byw gyda chyflwr niwrogyhyrol prin gyda phrognosis ansicr &#8211; <em>Intermediate Non Kinesigenic Paroxysmal Dystonic Choreoathetosis<\/em>. Mae hyn yn golygu bod Tom yn gorfod delio \u00e2 sbasmau cyhyrau cyson a gwanychol.<\/strong><\/p>\n<p>Dywedodd ei fam, Deb: &#8220;Mae Tom yn ddyn ifanc anhygoel ac mae&#8217;n ysbrydoliaeth i ni. Dydy e erioed wedi gadael i&#8217;w gyflwr ei atal rhag cyflawni unrhyw beth. Mae e a&#8217;i dad Phil yn gefnogwyr brwd o d\u00eem p\u00eal-droed Dinas Caerdydd. Maen nhw wedi bod \u00e2 thocynnau tymor ers blynyddoedd ac yn mynd i&#8217;r holl gemau cartref.<\/p>\n<p>\u201cPan gafodd ei eni, hyd y gwyddom ni, roedd popeth yn iawn ond pan gafodd ei archwiliad chwe wythnos roedd y meddyg teulu yn poeni bod cylchedd ei ben yn fwy nag y dylai fod. Cawsom ein gweld yn Ysbyty Athrofaol Cymru o fewn 24 awr a dywedwyd wrthym fod gan Tomas hydrocephalus.<\/p>\n<p>\u201cYn wyth wythnos oed, roedd yn rhaid iddo gael dyfais o&#8217;r enw siynt wedi&#8217;i osod i leddfu&#8217;r gwasgedd a oedd wedi cronni. Hwn oedd y cyntaf o lawer o siyntau.&#8221;<\/p>\n<p>Parhaodd Deb: &#8220;Roedd Tomas fel petai&#8217;n datblygu&#8217;n iawn ac roedd ar ei draed erbyn tua 18 mis ond yna pan oedd tua dwy oed, dechreuodd ddangos rhai arwyddion nad oedd popeth yn hollol iawn. Roedd wedi dechrau cael sbasmau am ddim rheswm o gwbl.<\/p>\n<p>\u201cCafodd lawer o wahanol brofion. Roedd y meddyg ymgynghorol yn yr ysbyty yn sicr bod Tomas yn dangos arwyddion o ddioddef o anhwylder symud niwrogyhyrol o&#8217;r enw Intermediate Non Kinesigenic Paroxysmal Dystonic Choreoathetosis, ac mai dyna oedd yn achosi&#8217;r sbasmau cyhyrol yr oedd Tomas yn eu dioddef bob dydd.<\/p>\n<p>\u201cRydym wedi rhoi cynnig ar sawl triniaeth wahanol i helpu Tomas gyda&#8217;r sbasmau hyn, a all ddigwydd unrhyw bryd ddydd neu nos. Mae wedi cael llawer o sganiau gwahanol a sawl ymchwiliad yn Ysbyty Great Ormond Street, ynghyd \u00e2 rhestr hir o feddyginiaeth dros y blynyddoedd.<\/p>\n<p>\u201cMae wedi bod angen gwiail asgwrn y cefn oherwydd sgoliosis, mae wedi cael llawdriniaeth ar y glun i gywiro dadleoliad, ond y mwyaf anodd a difrifol oedd llawdriniaeth arloesol ar yr ymennydd i osod dyfais electronig o&#8217;r enw ysgogydd ymennydd dwfn, a wnaed yn Ysbyty Frenchay, Bryste.<\/p>\n<p>\u201cOnd mae Tom yn ddyn ifanc penderfynol sydd wrth ei fodd \u00e2 chwaraeon, a hefyd yn dwlu ar gomedi, mae ganddo synnwyr digrifwch drygionus a phersonoliaeth wych yr ydym ni i gyd yn ei hoffi&#8217;n fawr. Mae&#8217;n hoffi cadw i fyny \u00e2&#8217;r tueddiadau, mae e&#8217;n ysbrydoliaeth i ni fel teulu.&#8221;<\/p>\n<p>Mae Tom, a raddiodd o Brifysgol De Cymru yn 2022 gyda BSc mewn Hyfforddi a Datblygu Chwaraeon erbyn hyn yn gweithio fel Cydlynydd Boccia ar gyfer Chwaraeon Anabledd Cymru. Mae hefyd yn aelod o The Squad T\u0177 Hafan &#8211; gr\u0175p o bobl ifanc sydd, diolch i ddatblygiadau mewn meddygaeth a gofal rhagorol, wedi byw i fod yn oedolion.<\/p>\n<p>Meddai Tom: &#8220;Yr awyr fydd y terfyn os byddwch chi ond yn cyfyngu eich hun i&#8217;r awyr!&#8221;<\/p>\n<p>Mae Tom yn dal i ymwneud yn fawr \u00e2 T\u0177 Hafan ac yn ogystal \u00e2 chodi arian ar gyfer yr hosbis, yn ddiweddar mae wedi dechrau cyflwyno rhai sesiynau Boccia i blant a gefnogir gan T\u0177 Hafan.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/twitter.com\/tajm1994\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Cliciwch yma i ddilyn Tom ar Twitter.<\/a><\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-medium wp-image-1520 aligncenter\" src=\"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/Tom-Martin-at-Ty-Hafan-225x300.webp\" alt=\"Tom Martin at Ty Hafan\" width=\"225\" height=\"300\" \/><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Tom Martin, 29 oed, yn byw yng Nghaerdydd ac fe gafodd ei gyfeirio at T\u0177 Hafan am y tro cyntaf yn 2002 pan oedd yn naw oed. Yn gefnogwr brwd o glwb p\u00eal-droed Dinas Caerdydd, yn aelod o garfan&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":340,"featured_media":1522,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[33],"tags":[],"class_list":["post-1519","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-straeon-teuluol"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1519","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/340"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1519"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1519\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1862,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1519\/revisions\/1862"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1522"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1519"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1519"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1519"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}