{"id":1168,"date":"2022-10-13T08:04:48","date_gmt":"2022-10-13T08:04:48","guid":{"rendered":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/?p=1168"},"modified":"2023-11-04T09:30:15","modified_gmt":"2023-11-04T09:30:15","slug":"some-families-may-crumble-without-ty-hafan","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/2022\/10\/13\/some-families-may-crumble-without-ty-hafan\/","title":{"rendered":"Stori Marshall"},"content":{"rendered":"<p>\u201cFy enw i yw Susan ac rwy&#8217;n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr gyda fy nau fab, Tyler, 16 a Marshall sy&#8217;n 13 oed.<\/p>\n<p>\u201cMae Tyler yn fachgen arferol yn ei arddegau ond mae bywyd yn wahanol iawn i&#8217;w frawd bach.<\/p>\n<p>\u201cGanwyd Marshall yn ar \u00f4l beichiogrwydd llawn ac ar \u00f4l ei genedigaeth arferol. Roeddwn i&#8217;n 21 oed. Nid tan ei fod yn chwe mis oed ac yn yr ysbyty\u2019n cael triniaeth am niwmonia y dechreuwyd gofyn cwestiynau am ei iechyd.<\/p>\n<p>\u201cRo&#8217;n i wedi mynd adref i gael cawod a chael ambell i ddilledyn gl\u00e2n a thra o&#8217;n i ffwrdd roedd nyrs wedi ei olchi &#8211; ac wedi sylwi bod ganddo grymedd yng ngwaelod ei gefn. Awgrymodd y dylai meddyg edrych arno.<\/p>\n<p>\u201cDaliodd y meddyg ysgrifbin o flaen llygaid Marshall a doedd ei lygaid ddim yn ei dilyn.<\/p>\n<p>\u201cMae&#8217;n rhaid bod y meddyg hwnnw\u2019n gwybod beth oedd yn chwilio amdano oherwydd gwnaeth anfon i ffwrdd am brofion ar unwaith.<\/p>\n<p>\u201cBythefnos yn ddiweddarach cawsom wybod bod gan Marshall Syndrom Sanfilippo ac y byddai&#8217;n datblygu fel arfer nes ei fod tua pum mlwydd oed, yna byddai&#8217;n dechrau dirywio. Yn y pen draw, byddai&#8217;n colli ei holl alluoedd ac yn dioddef o ffitiau a dementia. Dywedwyd wrthyf bryd hynny na fyddai Marshall yn byw holl flynyddoedd ei arddegau, mwy na thebyg.<\/p>\n<p>\u201cEr i mi glywed y meddyg yn dweud hynny wrtha i, dydw i ddim yn meddwl fy mod wedi ei dderbyn am gyfnod.<\/p>\n<p>\u201cYn yr achos hwn, ni wnaeth Marshall siarad erioed ac ni fu byth allan o gewynnau. Pan oedd yn fach byddai&#8217;n rhedeg yn wyllt o gwmpas y t\u0177 fel tarw gyda&#8217;i ben i lawr. Chefais i ddim help gan dad y bechgyn (roedden ni&#8217;n dal gyda&#8217;n gilydd bryd hynny). Erbyn hyn, prin y mae fy mhlant yn ei weld o gwbl.<\/p>\n<p>\u201cAr \u00f4l yr wythnosau cyntaf ar \u00f4l diagnosis Marshall, dechreuais grio llawer ac yna ceisiais anghofio amdano. Roedd yn rhaid i fi. Oherwydd fel arall, byddech chi&#8217;n crio&#8217;n barhaus.<\/p>\n<p>\u201cMae&#8217;n rhaid i chi ei gymryd un dydd ar y tro.<\/p>\n<p>\u201cRoedd hi&#8217;n haws pan oedd Marshall yn fabi. Mae&#8217;n fachgen mawr ac yn dal am ei oedran. Nawr ei fod yn ei arddegau nid yw&#8217;n gallu cerdded o gwbl ac mae bron yn gyfan gwbl yn cael ei fwydo trwy diwb. Rwyf wedi dechrau defnyddio teclyn i\u2019w godi yn y t\u0177 gan ei fod wedi mynd yn rhy drwm i&#8217;w godi fel arall. Dydy e byth wedi siarad, fel y cyfryw, ond roedd yn arfer dweud ychydig o eiriau. Erbyn hyn, dydy e ddim yn gallu dweud dim.<\/p>\n<p>\u201cRoeddwn i newydd wahanu gyda&#8217;u tad pan gysylltodd fy mam \u00e2 T\u0177 Hafan am gefnogaeth allgymorth. Roedd Marshall yn ddwy oed ar y pryd. Dechreuon ni ddefnyddio T\u0177 Hafan ar gyfer\u00a0 seibiant pan oedd yn bump oed.<\/p>\n<p>&#8220;Mae Marshall wastad wrth ei fodd yn T\u0177 Hafan. Mae bob amser yn hapus yn yr hosbis. Mae&#8217;n caru&#8217;r bobl. Mae wrth ei fodd \u00e2&#8217;r newid yn yr amgylchedd. Mae&#8217;n mwynhau gweithgareddau nawr, ond mae&#8217;n syrthio i gysgu cryn dipyn. Mae&#8217;n blino&#8217;n gyflym iawn. Mae&#8217;n caru&#8217;r menywod serch hynny &#8211; mae&#8217;n fachgen yn ei arddegau!<\/p>\n<p>\u201cDyw Tyler ddim yn siarad am Marshall a&#8217;r hyn mae&#8217;n mynd drwyddo ryw lawer. Dydy e ddim yn agor i fyny. Rwy&#8217;n gwybod ei fod yn effeithio arno. Roedd yn arfer bod yn rhan o gr\u0175p brodyr a chwiorydd T\u0177 Hafan, ond dydw i ddim yn meddwl ei bod hi&#8217;n c\u0175l iddo wneud hynny bellach. Rwy&#8217;n credu ei fod dan ddylanwad ei ffrindiau.<\/p>\n<p>\u201cMae T\u0177 Hafan yn achubiaeth i ni. Rydyn ni wedi cael ambell ymweliad argyfwng &#8211; adegau pan mae Marshall wedi bod yn effro am ddyddiau diddiwedd. Yna bydd yn sgrechian yn gyson. Pan fydd yn mynd i T\u0177 Hafan, gall Marshall a minnau gael seibiant ac rwy&#8217;n gwybod ei fod yn cael gofal da.<\/p>\n<p>\u201cDydw i ddim yn si\u0175r sut fydda i&#8217;n delio pan ddaw&#8217;r amser i ni golli Marshall. Galla&#8217; i dychmygu fy mywyd hebddo nawr. Mae e gyda fi drwy&#8217;r amser. Mae fel rhan ychwanegol o fy nghorff.<\/p>\n<p>\u201cO&#8217;n i wastad yn dychmygu pe na bai gan Marshall y cyflwr yma &#8211; y byddai&#8217;n blentyn trafferthus yn ei arddegau. Roedd e&#8217;n arfer bod yn eithaf digrif. Byddai wedi bod yn drafferth ond byddai wedi bod yn ddoniol hefyd.<\/p>\n<p>\u201cMae colli symudedd Marshall a cholli ei allu i fwyta wedi digwydd yn gyflym iawn, ers mis Gorffennaf mewn gwirionedd. Roedd arbenigwyr bob amser wedi dweud wrthyf y byddai&#8217;n raddol, ond dydy hynny ddim yn wir am Marshall. Roedd bob amser yn dwlu ar ei fwyd. Byddai&#8217;n gwneud unrhyw beth i gael bwyd. Nawr nid yw&#8217;n gallu llyncu. Mae hyd yn oed bwyd wedi\u2019i gymysgu yn achosi iddo ei boeri a\u2019i dagu. Mae hynny&#8217;n drist iawn oherwydd roedd yn mwynhau ei fwyd.<\/p>\n<p>\u201cMae hefyd yn mynd trwy rai nosweithiau lle nad yw&#8217;n cysgu o gwbl. Rydw i a fy nyweddi wedi blino&#8217;n l\u00e2n. Mae&#8217;n haws yn ystod y tymor gan y gallwn ddal i fyny \u00e2 chwsg, ond yn llawer anoddach yn ystod yr haf. Roedd yn rhaid i ni geisio cael rhywfaint o orffwys pan oedd Marshall yn gorffwys &#8211; y rhan fwyaf o&#8217;r amser, byddwn i&#8217;n mynd o gwmpas fel \u2018zombie\u2019.<\/p>\n<p>\u201cPrognosis Marshall yw na fydd, yn \u00f4l pob tebyg, yn goroesi blynyddoedd ei arddegau.<\/p>\n<p>\u201cRwy&#8217;n rhan o gr\u0175p o rieni sydd \u00e2 phlant Sanfilippo ac mae rhai achosion lle mae plant yn tyfu i fod yn eu 20au hwyr. Felly gobeithio y bydd Marshall yn un o&#8217;r rhai mwy ffodus fydd yn byw am fwy o amser na&#8217;r hyn a ragwelir. Y cyfan y gallwch ei wneud yw gobeithio.<\/p>\n<p>\u201cMae tipyn o adegau wedi bod pan dwi wedi teimlo mod i methu ymdopi bellach &#8211; a&#8217;r cyfan yn ormod i fi. Felly dwi&#8217;n ffonio T\u0177 Hafan ac maen nhw&#8217;n cael Marshall i mewn cyn gynted \u00e2 phosib.<\/p>\n<p>\u201cMae T\u0177 Hafan yn lle gwych sy&#8217;n rhoi lle i blant \u00e2 chyflyrau sy&#8217;n byrhau bywyd fwynhau eu hamser.<\/p>\n<p>&#8220;Mae hefyd yn rhoi llawer o gefnogaeth i deuluoedd na fydden nhw o bosibl yn gallu ymdopi hebddo.&#8221;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>\u201cFy enw i yw Susan ac rwy&#8217;n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr gyda fy nau fab, Tyler, 16 a Marshall sy&#8217;n 13 oed. \u201cMae Tyler yn fachgen arferol yn ei arddegau ond mae bywyd yn wahanol iawn i&#8217;w frawd bach&#8230;.<\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":1122,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[33],"tags":[],"class_list":["post-1168","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-straeon-teuluol"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1168","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1168"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1168\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2013,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1168\/revisions\/2013"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1122"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1168"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1168"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.ty-hafan.spindogs-dev7.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1168"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}