Dyblwch eich rhoddion rhwng 23 a 25 Tachwedd!

Mae angen eich help chi arnom. Mae angen i Tŷ Hafan godi £400,000 i barhau i fod yn achubiaeth i deuluoedd sydd â phlentyn sy’n byw bywyd byr.

Bydd pob rhodd i’n hymgyrch ‘Pob Bywyd Gwerthfawr’ rhwng 10am ar 23 Tachwedd a 10pm ar 25 Tachwedd, yn cael ei ddyblu diolch i’n cyllidwyr cyfatebol hael!

Gwenno and Emrys

Mae nifer y babanod newydd-anedig sy’n cael eu hatgyfeirio i Tŷ Hafan wedi mwy na dyblu mewn blwyddyn

Heddiw, mae miloedd o deuluoedd yng nghymru yn byw gan wybod y bydd eu plentyn yn marw. Mae’r nifer hwnnw’n dal i dyfu a dim ond digon o arian i gyrraedd 1 o bob 10 ohonynt sydd gennym. Rhaid i ni wneud mwy.

Mae’r apêl hon yn codi arian hanfodol i roi cymorth arbenigol i deuluoedd drwy gydol bywyd a marwolaeth eu plentyn a thu hwnt. O’r eiliad torcalonnus y maen nhw’n cael gwybod y bydd yn rhaid iddyn nhw ffarwelio, i greu atgofion gwerthfawr yn ystod bywyd byr eu plentyn.

Christmas decorations

Double your donation for Ty Hafan

Clywch gan ein teuluoedd

Yn rhan o’n hymgyrch, rydym ni’n falch o rannu straeon o’r galon am deuluoedd anhygoel y mae cymorth Tŷ Hafan wedi bod o fudd iddynt. Mae pob stori yn fodd pwerus o’ch atgoffa am rôl hollbwysig eich rhoddion wrth roi gofal a chefnogaeth i deuluoedd fel y rhain.

Stori Emrys

Roeddem ni’n gwybod beth oedd o flaen Emrys. Gallem ni fod wedi ceisio cael mwy o amser, ond ni fyddai hynny wedi bod yn deg ar Emrys.

Daeth ein teulu i’r ysbyty. Cafodd pawb gyfle i’w ddal. Tynnwyd yr holl diwbiau. Gwelsom ei wyneb prydferth heb unrhyw diwbiau am y tro cyntaf.

Cawsom amser gydag o wedyn. Dim ond y ddau ohonom, yn siarad gydag Emrys, yn sgwrsio, yn darllen iddo ac yn canu wrth iddo fynd i gysgu am y tro olaf.

Stori Tommy

Doeddwn i byth wir yn meddwl y byddai Tommy wedi mynd. Roeddwn i bob amser yn meddwl: ‘Na, mae popeth yn mynd i fod yn iawn. Mae ond yn rhywbeth y mae’n rhaid i ni ei wynebu. Mae’n ofnadwy, ond bydd e’n iawn.’

“Y peth am golli babi fel y gwnaethom ni golli Tommy yw bod y rhan fwyaf o fy ffrindiau a fy nheulu byth wedi cwrdd ag e’. Maen nhw ond yn gwybod yr hyn rwyf i wedi ei ddweud amdano. Ond gyda Kirsty a Tŷ Hafan mae yna gysylltiad emosiynol ac atgofion yr ydym yn eu rhannu ac mae hynny mor bwerus.”