Ddydd Mercher, 2 Gorffennaf, gwahoddwyd Cadeirydd y Bwrdd Ieuenctid, Taliesin Skone, i siarad yn lansiad Maniffesto Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant ar gyfer Etholiad y Senedd 2026.

Rhoddwyd slot byr i Tal siarad am bwysigrwydd iechyd plant iddo ef a’i deulu a’i ffrindiau, gan gwmpasu’r pedair galwad a gynhwysir ym maniffesto’r Coleg:

  • Grymuso gweithlu iechyd plant: Denu, cefnogi a chadw gweithlu sy’n gallu gofalu am genedlaethau’r presennol a’r dyfodol.
  • Cofleidio data ac arloesi digidol: Chwyldroi iechyd plant trwy dryloywder data a digideiddio, buddsoddi mewn seilwaith TG a hwyluso rhannu cofnodion ar draws sectorau.
  • Trawsnewid gwasanaethau iechyd: Blaenoriaethu iechyd, hapusrwydd a lles plant o fewn cynllunio, ariannu a darpariaeth y GIG.
  • Darparu i bawb: Sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfle i gael bywyd iach trwy liniaru penderfynyddion ehangach iechyd.

Gyda chefnogaeth ei rieni, ei frawd ac aelodau eraill o’r Bwrdd Ieuenctid, siaradodd Tal am bwysigrwydd cael plant yn eu gofal fel cyfranogwyr llawn a gweithredol, gan helpu i benderfynu beth sy’n gweithio iddyn nhw. Soniodd Tal hefyd am bwysigrwydd mannau hygyrch, cael mynediad at grwpiau cyfoedion â phrofiadau tebyg, sut y gallwn wella iechyd meddwl, pwysigrwydd Hosbisau Plant, a chadw’n heini, neu, yn bwysicaf oll i Tal, taro pobl yn galed iawn, yn gyfreithiol, ar gae rygbi!

Roedd rhai cwestiynau yn araith Tal i’r gynulleidfa, a oedd yn cynnwys sawl aelod o’r Senedd, gweithwyr meddygol proffesiynol, gan gynnwys arbenigwyr mewn iechyd plant yng Nghymru ac aelodau eraill o Lywodraeth Cymru a fydd yn allweddol wrth helpu i wireddu’r syniadau yn y maniffesto hwn ac yn araith Tal.

Meddai Dr Nick Wilkinson, Swyddog Coleg Brenhinol Pediatreg yng Nghymru, am araith Tal:

“Roedd yn hyfryd cael Tal yn siarad yn lansiad ein maniffesto heddiw. Wrth siarad am iechyd plant, rhaid i leisiau’r plant fod yn ganolog i bopeth a wnawn. Mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gwrando ar bryderon Tal ac yn gweithredu’r gofynion yn ein maniffesto, yn ogystal â chyllido darparwyr fel Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith yn briodol, er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni dyfodol iach i blant Cymru.”

Mae pawb yn Tŷ Hafan yn hynod falch o Tal am sefyll i fyny a siarad yn gyhoeddus ar ei ran ei hun, y Bwrdd Ieuenctid a phawb sy’n defnyddio hosbis plant yng Nghymru.

I nodi cyflawniad Tal, fe wnaethom ddathlu gyda’r Bwrdd Ieuenctid yn yr hosbis. Gwnaed cacen arbennig, a rhoddodd yr Ymarferydd Hawliau Plant ac Addysg Katie Simmons araith ar gyflawniadau anhygoel Tal.

Llongyfarchiadau a da iawn ti Tal!