Hanner Marathon Caerdydd

Ewch ati i redeg Hanner Marathon EPIC Caerdydd ar gyfer Hosbis Plant Tŷ Hafan!

Hanner Marathon Caerdydd

Dyddiad

4ydd Hydref 2026

Lleoliad

Caerdydd

Nawdd

£250

Tâl cofrestru

£10

Pam dewis rhedeg dros Hosbis Plant Tŷ Hafan?

Uchelgais Tŷ Hafan yw sicrhau nad oes rhaid i unrhyw deulu fyw bywyd byr eu plentyn ar eu pen eu hunain. Drwy ymgymryd â Hanner Marathon Caerdydd dros Tŷ Hafan, rydych chi’n ein helpu ni’n uniongyrchol i gyrraedd yr uchelgais hon ac yn sicrhau bod teuluoedd yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt drwy gydol bywyd, marwolaeth a thu hwnt i’w plentyn.

Mae James Meacham [yn y llun] yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd er cof am ei fab annwyl Thomas. Darllenwch eu stori yma.

Byddem wrth ein bodd pe baech yn ymuno â thîm Tŷ Hafan yn Hanner Marathon Caerdydd 2026!

Cofrestrwch eich diddordeb i fod y cyntaf i wybod a ydym yn cynyddu ein lleoedd elusennol ar gyfer 2026

Cardiff Half Marathon Ty Hafan

Beth gewch chi os dewiswch redeg droson ni:

Lle gostyngol am ddim ond £10, arbediad o £48

Fest rhedeg chwaethus ar ôl i chi gyrraedd £100 mewn nawdd

Deunyddiau codi arian digidol a chefnogaeth drwy gydol y daith

Mynediad i'n grŵp rhedeg Facebook, lle gallwch chi gwrdd â rhedwyr eraill

Gorsafoedd codi hwyl Tŷ Hafan ar hyd y llwybr

Mynediad i gyfleusterau gollwng bagiau cyn y ras a thoiledau (gan osgoi'r ciwiau)

Gwahoddiad i'n bwffe ar ôl y ras

Taith o amgylch Tŷ Hafan.

Eich cefnogi gyda’ch codi arian

Yma fe welwch eich Pecyn Cymorth Codi Arian Cyfryngau Cymdeithasol, sy’n cynnwys llawer o adnoddau i’ch helpu i wneud y mwyaf o’ch codi arian ar-lein ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd. Ac os oes angen unrhyw gymorth arall arnoch, bydd ein Tîm Gofal Cefnogwyr wrth law i helpu – bob cam o’r ffordd!

Gwyliwch rhedwyr yn cymryd rhan isod